Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAl Bhif. 11.] TACHWEDD, 1885. [Cyf XXXVIII. HUGH LATIMER. EWN cysylltiad â'r erledigaethau Pabyddol yn Lloegr yn yr amser gynt, y mae llawer o enwau tra dysglaer ar lechres " ardderchog lu y mer- thyron; ac yn en mysg y mae enw y gwrth- ddrych y mae ei ddarìun yn addurno y Winllan hon. Ganwyd Hugh Latimer yn y flwyddyn 1491. Amaethwr oedd ei dad; ond yr oedd ei amgylchia,dau yn rhy gyfyng iddo allu dwyn ei deulu lluosog i fyny fel ag y dymunai. îíis gwyddys nemawr am Hugh hyd nes iddo ddyfod yn 14 oed, pryd yr ydym yn cael ddarfod iddo gael ei anfon ì Brifysgol Caergrawnt. Hynodid Latimer yn ystod ei arosiad yno gan sancteiddrwydd buchedd ac efrydiaeth galed. Ar y dechreu Pabydd selog oedd Hugh Latimer; ond gofalodd Duw am gyfaill cywir iddo yn y brifysgol, o'r enw Thomas Bilney, yr hwn oedd efrydydä mawr ei hun, a'r hwn hefyd oedd wedi galaru Uaw«r o herwydd bywydau llygredig clerigwyr y