Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 9. Jttcrti, 185». Cyf. X. BOD RHWYMEDIGAETH DYNION I UFUDDHAU I'R DDEDDF WEDI El GADARNHAU TRWY IAWN CRIST. Mr. Gol,— Yr wyf yn cyduno â chwi yn llawn, yn eich nodiad ar glawr y " Winllan'' am Ebrill, fod y pwngc hwn o " bwys mawr;" ac yn gyson â'ch dymuniad, yr wyf yn aníon i chwi ychydig erthyglau ar y mater. Y pwngc a gymerir mewn llaw yn yr ysgrif hon yw, Fod dyn, ac felly bob dyn, dan rwymedigaeth i ufuddhau i ddeddf fawr y nef yn mhob cyflwr a sefyllfa y byddo ynddynt. Wedi hyny, ymdrechir dangos na all dim ddi- ddymu ei rwymedigaeth ef; ac yna, yn olaf, Fod yr Iawn yn chwaneyu ei rwymedígaeth, neu, yn gosod rhtoymau cryfach arno i ufuddhau iddi hi. I. Rhwymedigaeth* dyn, fel BOD MOESOL, I UFUDD- HAU I'R DDEDDF. Yn gymaint ag y bwriedirj i'r ysgrifau hyn roddi ychydig oleuni i ddarllenwyr ieuaingc " Y Winllan," y rhai, ond odid, sj dd heb ymchwilio ond ychydig i'r hyn • " Rhwymedigaeth." Arferir y gair mewn tri ystyr: 1. Y mae'n gyfystyr àg "angearheidrwydd:" a phan arferir ef yn yr ystyr yna, cyfeiria at y dybiaeth nad yw dyn yn rhydd i weith- redu yn ol ei ewyllys, ond ei fod yn cael ei orfodi i weithredu fel y gwna, ac felly dan rwymedigaeth i wneyd hyny. 2. Arwydda y rheswm paham y dylai dyn gyflawni ei ddyledswydd; neu, fod yn rhesymol iddo ei chyflawni, o lierwydd rhyw beth neu bethau, yr hyn a ddylai ei gyflawni. 3. ac yn olaf, Yr ydym yn golygu " rhwymedigaeth" yn gyfystyr â " dyledswydd." Yn yr ystyr hon, y mae dyledswydd yn cael ei galw yn " rhwymedigaeth foes- ol." Yn y ddau ystyr olaf yr arierir y gair yn yr ysgrifau hyn.