Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 8. Awst, 18»*. Cyf. X. ANFFYDDIAETH. Y Mae anfFyddiaeth yn meddu dwy ffurf, y rhal a ddy- nodir fel hyn:—Anffyddiaeth bendant ac amlwg, ac anffyddiaeth guddiedig. Y mae y gyntaf yn gynwysedig yn y gwadiad fl'urfîol o fodolaeth Duw. Y mae am wneyd y cread oll yn wâg o bob peth ond defnjdd, a dywed fod hwnw yn bodoli erioed. Nid yn unigy mae llywodraeth Duw yn ei Ragluniaeth yn cael ei gwadu, ond y mae ei fodolaeth ef ei hun yn cael ei wadu. Meddylia rhai nad oes neb yn anffyddwyr yn yr ystyr hon, ac na fu neb erioed, am fod y fath athrawiaeth mor withwynebol i dybiau cyffredinol dynion, ac mor groes i gasgliadau rheawm. Ond pa beth bynag am yr hen anffyddwyr, mae yr anffyddwyr presenol, yn ddiddadl, wedi ymollwng i'r eithafion afresymol hyn, er cymaint o anhawsderau a gawsant i fyned i'r aphelion. Y mae dosbarth arall o anffyddwyr. Y mae y rhai hyn yn cymeryd arnynt fod yn fwy gwylaidd na'r lleill: nid ydynt yn cyhoeddi eu hanffyddiaeth yn gyhoeddus ; eithr y maent yn gosod cynseiliau i lawr, y rhai sydd yn arwain i ganol anffyddiaeth. Gwadant Ragluniaeth, neu ymyraeth Duw ynddí: ac fel y dywedodd Howe, a llawer un ar ei ol, y maent am ei droi ef allan o'i fyd ei hun, a'i yru yn mhell oddiwrth ei holl waith. Y mae yn rhaid i'r byd (a'i holl drigolion), meddant hwy, ofalu am dano ei hun, a chau ei byrth i gadw ei adfyd i mewn, a chadw Duw allan, yn hytrach na goddef y dirmyg o dderbyn cymhorth oddiwrtho ef'. Yn wir, y mae y fath ynfydedd afresymol )n ffbliueb gwarthus. Ac y mae yn anhawdd credu mai doethíon yw y rhai hyn, er y mynant i ni feddwl yn uchel amdanynt. " Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid.'' Y mae cy- maint a hyn o'r Beibl yn wirionedd, beth bynag, er y