Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 6. Mcheíìn, 1S5*. Cîf. X. CYMERIAD AC AMGYLCHIADAU JOB. (Parhâd tudal. 84.) V. Dyn a gafodd m gystüddio yn drwm oedd Job.— Cafodd gystudd corfFol poenus. Tarawyd ef â " chorn- wyd blin, o wadn ei droed hyd goryn ei ben." Cymer- odd " gragen i ymgrafu â hi, ac a eisteddodd yn y lludw." Cyatuddiwyd ef yn ei feddwl hefyd. " Y mae fy ymad- rodd heddyw yn chwerw,'' medd ef: " fy nialedd sydd drymach na'm huchenaid," Job xxiii. 2—4. Hawdd y gallai ddywedyd fel Jeremia, " Myfi yw y gŵr a welodd flinder," Gal. iii. I. Oddiwrth hyn, ni a welwn nad yw y goraf o feibion dynion, tra yn y fuchedd hon, yn rhydd oddiwrth gystudd a thrallod. Gorfu i'r proffwydi, y rhai a " lefarasant yn enw yr Arglwydd, ddyoddef blinder." Felly y mae hi eto. Ÿ mae'r goraf o blant Duw ar y ddaear yn aml yn gystuddìol: nid y w creýydd yn diogelu rhag hyn. " Yn y byd gorthrymder a gewch." Yn wir, anwyliaid Duw sydd ddyfnaf yn y pair yn lled aml. Cy- mered y cristion gysur er hyny, nid yw ond o fyr bar- hâd. " Canys ein byr ysgafn gystudd ni.'' Byr yw am- ser mewn cymhariaeth i dragwyddoldeb; ysgafn yw y cystudd mewn cymhariaeth i bwys y gogoniant sydd yn aros plentyn Duw. Cofied y cristion eiriau Iago yn w»s- tadol: " Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddyoddefus," lago v. 11. " Er bod cystuddiau trymion i gristion dan j groes, Llwyr gilwg Uawer gelyn i'w erbyn yn ei oes; Ymddengys yu nydd angeu bydd ef o'i rwydau'n rhydd, Ei ymdrech a gotonir, gorphenir gyrfa'r ffydd." VI. Cyfarfyddodd Job a phrofedigaeth.au tanllyd. —Ni ddaeth i ran dyn erioed «m a wyddom eu cyffelyb. Darllener y bennod gyntaf o'i ljfr, a ni a welwn rifres fawr o'r profedigaethau a i cyfarfyddasant. Pan oedd ei feibion a'i ferched yn bwyta yn nhŷ eu brawd henaf,