Skip to main content

Rhif. 5. Mai, 1859. Cîf. X. CYMERIAD AC AMGYLCHIADAU JOB. Tybia rhai nad yw y llyfr a ddyga enw y dyn hwn yn ganonaidd. Dywedant mai chwedl yw. Dywed ereill na fu y fath ddyn erioed ar y ddaear, ac mai Uyfr celwydd- og yw. Y mae un sylw yn ddigon er dangos cyfeiliornad y tybiau hyn. Y sylw yw y cyfeiriad a wna Duw ei hun at y dyn hynod hwn. "Pe byddai yn ei chanol y tri wŷr hyn, Noah, Daniel, a Job." (Ezec. xiv. 14.) Yr un peth lyddai dywedyd na fu Noah a Daniel yn preswylio ein daear, a dywedyd na fu Job. Crybwylla Duw am y tri wýr hyn, fel rhai a safai yn uchel yn ei ffafr. Cyfeiria yr apostol hefyd at Job, a gesyd ef alían fel un o'r proffwydi a fu yn Uefaru yn enw yr Arglwydd, (Iago v. 10,) a'i fod yn deilwng o efelychiad. " Chwi a glywsoch am am- ynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd. Wedi gwneyd y nodiadau arweiniol hyn, ni a gymerwn olwg ar y dyn rhyfedd hwn, yn hynodion ei gymeriad, yn nghydag amgylchiadau rhyfeddol ei fywyd. I. YR OEDD YN DDYN O DDUWIOLDEB ANNGHYFFREDIN. " Yr oedd gŵr yn ngwlad Us a'i enw Job, ac yr oedd yn berffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni." Y mae graddau mewn duwioldeb. Gesyd y Beibl allan y raddoliaeth fel y canlyn:—" Plant bychain, gŵyr ieuaingc, ac henafgwyr." Yn y dosbeirth hyn, ceir rhai yn weinion, ereill yn gryfion; rhai yn fychain, ereill yn eu Uawn dwf, wedi cyraedd at " fesur oedran cyflawn- der Crist.'' Y mae y rhai olaf hyn, fel rhyw ser dysglaer yn lluchio eu goleuni i bellder, a phawb yn eu gweled o bell, gan eu bod yn rhagori mewn maint ac ysplender ar y lleill o'u cwmpas. Un felly oedd Job. Ymddengys ei fod yn un o'r rhai mwyaf crefyddol a welodd ein byd ni erioed. Yr oedd yn un o gewri crefyddol yr oesau gynt. Ond er y bodolai filoedd o flynyddau yn ol, y mae i'w weled yn awr fel seren ddysglaer yn ffurfafen yr eglwys,