Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 4. Svbrill, 18»?. Cîf. X. Y R Y C H . "Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf-anedig ei ŷch," &c. Deut. xxxiii. 17. Diaü fod darllenwyr ieuaingc y Winllan wedi sylwi fod crybwylliad mynych yn y Beibl am yr ychain, y teirw, a'r lloi. Yr oedd y creaduriaid hyn i'r Israeliaid yn werth tra mawr. Cyfansoddent ran fawr o'u cyfoeth. Golwg brydferth iawn ar ddiwrnod tesog, fyddai gweled, yn yr oesau gynt, fynteioedd lluosog o'r creaduriaid hyn yn pori brastliroedd, llechweddi, bryniau, a dyffrynoedd Judea. Meddianai yr hen deulu gynt ỳroedd mawrion o anifeiliaid, cyn iddynt ymsefydlu yn ngwlad Canaan. Yr oedd y Patrieirch yn enwog am eu cyfoeth yn hyn. Gwel hanes Abraham (Gen. xxiv. 35); a Jacob (Gen. xxx. 43); a Job befyd. Dichon mai efe oedd y cyf- oethocaf ohonynt oll. Dywedir fod ganddo saith mil o ddefaid, a thair mil o gamelod, a phum can mil iau o ychain, a phum cant o asynod (Job i. 3). Bernir fod gwlad Basan yn well magwrfa iddynt nag unrhyw wlad arall; ac oblegid hyny, yr oedd y wlad hono yn orlawn ohonynt. Gwneid defnydd o'r creaduriaid hyn gan yr Iuddewon er dwyn yn mlaen waith amaethyddol; a defnyddient niferoedd anferth i'w haberthu, ac hefyd i fod yn lluniaeth iddynt hwy a'u teuluoedd. Yr oedd eu gof'al i'w magu, eu porthi, a'u pesgi, yn dra mawr, gan eu bod yn dwyn iddynt lawer o elw, yr hyn a gyfrif am y gỳroedd mawrion y darllenwn arndanynt yn y Beibl. Dywedasom fod yr ých yn greadur gwasanaethgar iawn er dwyn yn mlaen waith amaethyddol. Defnyddíd ef i aredig, fel y dëfnyddir ceffylau yn ein gwlad ni. Mor foreu ag amser Job, yr ydym yn darllen am hyn. " A daeth cenad at Job, ac a ddywedodd, Yr ychain oedd yn aredig," &c, Job i. 14. " Lle nid oes ychain, glân yw y preseb," medd Solomon, Diar. xiv. 4. Yn amser Elias, cawn Eliseus yn aredig â deuddeg iau o ychain, pan y