Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINLLAN Rhif. 3. Mawrth, J.S5S'. Cyf. X. PAUL ELIS, NEU FPYRDD DUW YN WELL MA'N FFYRDD NI. Argraffwyd y sylwadau canlynol yn wreiddiol yn y " Bible Class Maguzine." Gan fod iddynt duedd mor dda, a'ubodyn ddarluniad mor darawgar o gymeriad mil- oedd yn ein gwlad, yr ydym yn eu hanfon i'r wasg, gan obeithio y gwnant les i ddarllenwyr y Winllan. O bob tybiaeth annghywir, nid oes yr un yn fwy felly, na thybio pe cawsem ein fFordd ein hunain yn mhob peth, y byddem yn ddedwydd. Y mae y weddi hono, "Cyfarwydda fi, O Arglwydd, yn dy ffyrdd," yn well na " Dyro i mi, O Arglwydd, dciymuniad/y nghalon.'' Cawn brawf amlwg o'r gwirionedd hwn, yn yr hanes a ganlyn. "Pe bawn wedi cael fy nillad a'r botymau newydd- ion," meddai Paul bach, " yna mi a fyddwn yn dded- wydd." Yr wythnos ganlynol, cafodd ei ddillad a'r botymau newyddion. Gwisgodd hwy gyda phleser mawr, ac am ychydig o amser ymddangosai yn ddedwydd dros ben. " Pe rhoddai rhyw un i mi gyllell boced, a'm cyfar- wyddo i wneyd llong, mawr mor dda fyddai genyf!'' Rhoddodd ei ewythr iddo gyllell; dysgodd Abel Mike ef i wneyd llong, ac am dymor, ymbleserai i'w nofio ar y llyn. " Pe bawn i mor fawr a Fred. Lauder, ni ofalwn am ddim wedi'n." Aeth dyddiau, wythnosau, misoedd, a blynyddoedd heibio, a thyfodd y gŵr bach mor fawr a Fred ; ond er cael dillad newyddion, a chyllell, a dysgu gwneyd Uong; eto, nid oedd efe yn ddedwydd. ~ " Mawr mor dda fyddai genyf, pe bawn wedi fy mhren- iisio i fod yn siopwr; oblegid yr wyf yn hoff ryfeddol o figs a raisins.'' Dygwyddodd fod hyn yn unol â medd- wl ei dad ; rhoddodd ef yn brentis mewn shop grocer ger llaw. Ond ni fu Paul nemawr amser heb fyned yn sal iawn, oblegid bwyta gormod o raisins a,figs.