Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINLLAN. Rhif. 1. lonawr, TSäS1. Cîf. X. ETIFEDD 1EUANGC Y NEF YN CROESI GLYN CYSGOD ANGEU. At Ddarllenwyr y Winllan. Wele i chwi hanes dyddorol a gwirioneddol am fachgenyn duwiol yn marw. Mae'n deilwng o'ch sylw a'ch efelychiad. Darllenwch ef yn astud, a gweddiwch am ras i fyw bywyd " yr uniawu " hwn, fel y byddo eich diwedd chwi " fel yr eiddo yn- tau." Yr eiddoch, &c. Caerdydd. Isaac Jenejns. Chaeles Davies ydoedd fab i Mr. a Mrs. G. Dayies, o Hwlfford, sir Benfro. Ganed ef Medi 23ain, 1339. Yr oedd yn naturiol yn blentyn tyner o ran ei gyfansoddiad, o dymher wylaidd, addfwyn, a llonydd, ac o ymddygiad hynaws ac ufudd. Yr oedd yn hynod am ddywedyd y gwir bob amser. Nid yw ei rieni yn cofio iddynt erioed gael achos i'w geryddu am unrhyw anwiredd. Yr oedd hefyd yn hoff o'i ysgol ddyddiol a Sabbothol, ac ni byddai byth yn absenol o'i ddosbarth, oddieithr fod afiechyd yn ei attal ; ac yr oedd ei gynydd mewn dysgeidiaeth yn eglur i bawb. Yr oedd ganddo hoffder mawr yn nhŷ a gwasauaeth Duw er yn bur ieuangc, a chymerai sylw neillduol o wa- hanol ranau moddion gras. Yr oedd ei serch yn nodedig at yr Ysgol Sul, a'r addysg a dderbyniodd yno a argraff- wyd ar ei feddwl i'r fath raddau fel y bu yn ddefnydd cysur a chynaliaeth iddo yn ystod ei gystudd maith. Yr oedd ei wybodaeth am drefn iachawdwriaeth, trwy ffydd yn Nghrist, yn mhell uwch law ei oedran. Ei ffydd yn addewidion yr efengyl ydoedd yn ddiysgog, ac yn debyc- ach i eiddo hen gristion na phlentyn. Dywedai blaenor, yr hwn a ymwelodd âg ef yn fynyeh yn ystod ei gystudd, mai nid ffydd gyffredin oedd'yr eiddo ef, ond ei bod fel ffydd cristion haner can mlwydd oed, a fyddai yn add- fedu i ogoniant. Gall pawb a ymwelsant âg ef yn ei gystudd ddwyn tystiolaeth i ras Duw yr hwn a'i cynaliai, ac a'i cysurai yn ei wendid a'i boenau, ac a'i galluogai i