Skip to main content

61 FIJT A'E FIJIAID. AE ynysoedd Fiji yn gorwedd yn y Môr Tawel, a'u oanolfan yn y 17° o ledred deheuol, a 178° o hydred dwyreiniol. Maent yn ddau gant a phump ar ugain mewn rhifedi; ond nid oes o'r holl rifedi hyny ond oddeutu pedwar ugain yn gyfaneddol. Oreig- iau bychain noethion a llwm yw y rhan amlaf o'r lleill. Prif ynys- oedd y tŵrydynt, Viti-levu (FijiFawr), a Vanua-levu (Tir Mawr). Mae y flaenaf ynbedair milldir a phedwar ugain o hyd, wrth haner oant o led; a'r olaf yn bymtheg a phedwar ugain o hyd wrth ddeg ar ugain o led. Mbau, yn sefyll ar ynys fechan o'r un enw yn ymyl Viti-levu, yw y brif ddinas. Yn yr ynysoedd mawrion, y rhai ydynt fryniog, îe, a mynyddig braidd, mae y golygfeydd yn bryd- ferth ac amrywiaethol, a'r tir mewn íluaws o engraffau yn fras a phur gynyrchiol. Mae yr hinsawdd yn gynhes a thipyn yn llaith, ac felly yn dra chyfaddasol i blanigion a blodau y cylch trofegol. Mae y cocoa nut, yr yam, yr aurafal, y banana, yn nghyda ffrwyth- au ereill cyffely b, yn addfedu yn Fiji yn rhwydd a pherffaith; ac y mae y tir mewn rhai manau yn gyfaddas hefyd i gynyrchu siwgr, ootwm, a choffì. Darganfuwyd rhai o'r ynysoedd gan Tasman, y môr-deithiwr Ellmynig, mor foreu a 1643; ond ni ddaethant i nemawr ó sylw hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf, pan yr ymwelwyd â hwy gan y cadbeniaid Seisnig Oook, Bligh, a Wilson. Oddeutu 1806, dech- reuodd masnachwyr ymweled â'r ynysoedd er mwyn elw. Y ddati brif erthygl a geid yn Fiji oeddent y coed a elwir sandál-wood, a'r pysgod a elwir beche-de-mer. Oludid y rhai hyn i China. Mae y coed yn rhoi perarogl hyfryd wrth eu llosgi, a gwerthfawrogir hwy fan y Chineaid oblegid hyny, fel llosg-offrymau derbyniol i'w uwiau. Ac mae y pysgod drachefh yn oael eu hystyried ganddynt fel y moethau mwyaf dewisol. Mae poblogaeth yr ynysoedd oll oddeutu cant a haner o filoedd. Nis gall neb ddyweyd o ba bobl yr hanant. Ond sicr yw eu bod yn debycach o ran Hiw eu crwyn, a chyfluniad eu personau, i Negroaid Affrica nag i'r Malayaid a boblogant yr Ynysfôr Dwyr- einiol. Mewn rhai pethau ymdebygolant yn fawr i breswylwyr yr Ynysoedd Oyfeillgar, ac i Faoriaid New Zealand; tra mewn petb- au ereill y gwahaniaethant yn fawr oddiwrthynt. Maent fel pobl yn hynod o sylwgar, cyfrwys, a chall. Ond cyn dyfod dan ddy- lanwad cristionogaeth, yr oeddent yn greulon, dialgar, a gwaedlyd iawn. Dygir hwynt i fyny o'u babandod i'r arferion mwyaf an- foeaol, annynol, ie, a chythreulig. Y wers gyntaf a ddysgir i blentyn ydyw, taraw ei fam, ac os esgeulusa wneyd hyny, ofnir y bydd iddo pan dyfo yn ddyn droi allan yn llwfrddyn. Dywed ua iddo droi i mewn i dý lle yr oedd teulu yn galaru ar ol chwech o'ii oyfeillion, y rhai a laddesid mewn rhyfel. Un o'r pethau cyntaf a welodd yr ymwelydd oedd malo, h.y., gwisg dyn—un pur dda D EBRILL, 1871.