Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T WINLLAN. AM MEDI, 1863. GONESTRWYDD. Uk noswaith yr oedd hen yyt tlawd a'i fab, bachgenyn bychan, yn eistedd ar ochr y ffordd, yn agos i borth hen dref yn Germany. Cymerodd ei dad dorth o fara a bryn- odd yn y dref, ac a'i torodd, ac a roddodd ei haner i'w fab. "Nid felly, fy nhad," meddai y bychan; " ni wnaf fwyta nes y byddoch chwi wedi gorphen. Yr ydych wedi bod yn gweithio trwy y dydd am gyflog bychau i'm cynal i, a rhaid eich bod yn newynog. Mi a arosaf hyd nes y byddwch wedi eich digoni." " Yr wyt yn siarad yn garedig, fy mab," atebai y tad. " Mae dy gariad tuag ataf yn gwneyd mwy o les i mi na'm bwyd ; ac y mae dy lygaid dysglaer yn fy adgoffa o'th fam, yr hon sydd wedi ein gadael, gan ddyweyd wrthyt am fy ngharu fel yr arferai hi wneyd: ac yn wir, fy mab, yr wyt wedi bod yn gysur ac yn gymhorth mawr i mi. Ond yn awr yr wyf wedi bwyta y tamaid cyntaf, i'th foddhau di: dy dro dithau sydd yn awr i fwyta." " Diolch i chwi, fy nhad; ond torwch y darn hwn yn ddau, a chymerwch ychydig yn chwaneg; yr ydych yn gweled nad yw y dorth yn un fawr, ac y mae yn ofynoí i chwi gael llawer mwy na fl." " Bydd i mi ranu y dorth i ti, fy machgen, ond ni bydd i mi ei fwyta; mae genyf ddigon; a bydded i ni ddiolch i Dduw am ei ddaioni, am roddi i ni yr hyn sydd lawer yn well,—calonau llawen a thawel. Oni bydd i'r Hwn sydd wedi rhoddi i ni y manna o'r nef i borthi ein heneidiau an- farwol, roddi i ni hefÿd yr hyn sydd angenrheidiol i borthi a chynal ein cyrff marwol ?" Darfu i'r tad a'r mab ddiolch i Dduw yn wresog, a dech- reuasant dori y dorth yn dafellau er dechreu ar eu hwyr- bryd. Ond wrth dori y dorth, syrthiodd allan ohoni am-