Skip to main content

T WINLLAN. Alí MEHEFIN, 1863. Y DIWEDDAU BAHCH. EVAN EDWARDS. GA.N Y PARCII. LOT HTJGIIE3. __________ j Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784, yn y Talwrn, plwyf Llanddyfuan, Môn. Yn mis Mawrth, 1802, pan oedd y diweddar Mr. John Manrice yn llef'aru ar Ioan ix. 4, yn hen gapel Tý Mawr, Tewdraeth (Elim), y cafodd ef ei argyhoeddi. Dywedodd ei deimlad wrth gymydog, ac wedi hyny cafodd ymddyddan â Mr. Maurice, yr hwn a'i cymhellodd i dd'od i'n cymdeithas. Efe a ymunodd yn un o'r rhai cyntaf, ar ddydd Sadwrn, yn Aberffraw. Yr oeddent yn cyfarfod y pryd hwnw ar ganol dydd, yn y Tŷ Coch, llo yr arferent bregethu. Daeth yn fuan yn dywydd mawr ar Mr. Edwards gyda'i grefydd : gelynion oddimewn a gelynion oddifaes a gurent aino ; ac fel y dywedodd Crist, mai " gelyu dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun," felly y profodd yntau. Aeth ei frawd yn elyn mawr iddo, a'i dad i raddau, ac hyd yn nod y forwyn ! Pan y byddai ef yn darllen ar ddyledswycld yn y teulu, cymerai hithau y droell faeh i nyddu! Oherwydd na chai lonydd gartref, ac na allai gael un sefyllfa yn ei wlad ei hun, yn 1803, efe a symudodd i Ferthyr Tydfil, lle y cafodd waith yn ol ei feddwl, a cafodd y Sabboth iddo ei hun. Er maint ei groesau, efe a gadwodd gyda gwaith ei Ddnw. Ymun- odd yn nghapel y Seison, er na wyddai fawr o'r iaith Seisnig. Yn y ílwyddyn 1805, daeth Mr. Edward Jones i Ferthyr fel cenadwr Wesleyaidd, a chafodd Edwards gynaìiaeth i'w ysbryd yn ei iaith ei hun. Yn 1800, talodd Edwards ymweliad à Môn, i weled rhai o'i berthynasau ; a chan fod llongau yn tradio o Amlwch i Abertawe, pan ddaeth yr amser iddo ddychwelyd, aeth i Amlwch i gwrdd â'r llong. Ar ol gadael y porth- ladd, cododd yn ystorm fawr, a gorfu y llong ddychwelyd,