Skip to main content

Y WINLLAN. AM EBMLL, 1863. NODION Y MlENT MELYN. EHAGLITH. Fy fielyntìon personol â phethau ereill. Maen meiyn Lieyn, felly y gelwir fi gan bobl dda sir Gaernarfon er's canrif'oedd meithion bellach, ac nid oes fawr borygl y cyfnewidir fy enw tra fyddo llanciau Enlli a gwyryfon Uwchymynydd yn gallu seinio Uafariaid a chydseiniaid y wiwlwys Omeraeg. Ni welodd un o gant o ddarllenwyr y Winllan fy enw ar ddu a gwyn o'r blaen, mi warantaf, ac mae yn dra thebyg na ŵyr ond ychydig ohonynt am fy modolaeth, er fy mod yn frodor teyrngarol o'u gwlad, ac yn eistedd ar fy sedd anrhydeddus bresenol ynddi, yn mhell, yn mhell, cyn geni Hu Gadarn erioed. Nid bob amser y mae gwallt gwyn a theilyngdod yn cael y parch a'r sylw a deilyngant gan drìgoüon gwamalt'ryd y byd isloerawl hwn, ac mao fy mhrofiad maith a'm sylw craffwedi fy narbwyllo yn llwyr i gredu gwiredd geiriau fy meistr Iesu, '' Nad oes i broffwyd anrhydedd yn ei wlad ei hun.'' Ond o ran hyny, diystyr ydyw trigolion y ddaear o wasanaeth ddigyfwerth fy ewythr anrhydeddus yr Huan molyn-wawr, hen foneddwr urddasol, ag nad wyf fl deilwng i gael dattod carai ei esgid ef, er yn berthynas mor agos iddo, Nid ydynt, chwaith, fymryn yn fwy moesgar tuag at fy hen fodryb ddihafal y Lloer wen-gain. Pe byddai i'm hewythr a'm modryb chwareu mwgwd yr ieir â hwy am ychydig amser, deuent yn fuan i'w parchu yn fwy, hyd yn nod nig y parcha hogiau Dolgellau Gader Idris, a genuthod y Bermo eu lampau nwy a'n banciau tywod, O na ddysgai pobl y byd yma, ac yn enwedig fy hon ffrind- iau y Cymry, roddi parch i'r hwn y maeparch yn ddyled- us! Ond, credu yr wyf y dysgant well moesau yn y man, ac y caiffyr hen Eaenmeltn, hir esgeulusedig, yn mhlith anffodusion ereill, fwy o sylw a pharch cyn hir.