Skip to main content

Y WINLLAN. AM MAWllTH, 1863. Y PARCH. DAVID WILLIAMS.* Pan ymwelodd y tadau Cymreig âg ynys Mon, daethant yn eu tro i Lanfairpwllgwyngyll. Yn niysg ereill a gyrchai i'w gweled a'n clywed, yr oedd, o leiaf', ddan o feibion Siglan Fawr—David a John. Nos âydd Calan 1806, wedi pregethn, galwodd Mr. !)avies, Croes-Ef'a, y society i aros ar ol; a phwy oedd yno, hehlaw amrai ereill, yn eistedd ar fainc y Saer oedd yn y tŷ ewrdd, ond David Williams— mab Siglan Fawr. Yr oedd saeth lem wedi myned i'w galon. Dyma ddechreuad bychan mewr. lle bychan ; ond y mne yn ddechreuad; ac y mae y cnnlyniadau sydd i f'od iddo, yn f'awr, yn enwog, yn o^oneddus. Dyn i f'yned yn ei flaen oedd David Williams; os nad mor gytìym a'i f'rawd John—yr hwn hefyd oedd wedi aros yn y society y noson hono—er hyny i fyn'd yn sicr a phenderfynol. O'r noson gyntaf yn y flwyddyn Ì806 liyd derfyn ei t'y wyd, Cynydd f'u arwyddair David Williams. Tynodd ato yn fuan sylw yr eglwys, fel djn ieuanc o alluoedd anngliyffredin ; ac ar Ddydd Llun y Pasc yn y flwyddyn ddylynol, aafodd i fyny yn ben gapel Aherffraw, a darllenodd fel testyn i'r bregeth gyntafa draddododd, "Tangnefedd i chwi." Y mae pcdair blyncdd ar ddeg ar ugain er pan y daethom gyntaf yn gydnabyddus âg ef. Yr oedd y pryd hyny yn nghryfcìer ei fywyd ac yn nghanolddydd ei ddefnyddioldeb a'i boblogrwydd. Ei berson o f'aintioli cymesur, o ymddang- OBÌad dynol, a gwneuthuriad cadarngryf, heb fod o gorflol- aeth rhy drwchus; ei wynebpryd, nid fel yr edrychai yn ddiweddar, ac nid fel y portread ohono yny "Cwmwl Tyst- ion '*—a'i gernflew yn drwch o dan ei ên, ac yn cyraedd o • AU;in o erthygl alluog ary gŵrgwirfawrhwn,ynyrEtJttoRAwTí Wesleyatdd am Ionawr, 1863.