Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. AM CHWEFROR, 1863. BYR GOFIANT AM JAMES NICHOLAS, CYDWELI. Y maü y Seison yn rhagori yn fawr arnom ni—y Cymry— mewn cymeryd sylw o ragoriaethau crefyddol plant, ac ysgrifenu cofiantau am y rhai hyny ohonynt sydd yn " marw yn yr Arglwydd." Anfynych y daw i'n llaw rifyn o'r Earlg Days, a chyhoeddiadau bychain cyffelyb o'r eiddynt hwy, nad oes ynddynt gofiant byr am fywyd duwiol a marwolaeth ddedwydd rhyw blentyn. Ac yn wir, erbyn meddwl, y mae y Winllan, y blynyddau hyn, wedi dyfod yn faes ar ba un o fis i fis y tardd ac y blodeua amryw o'r planigion peraroglus hyn. A dyma un o'r dosbarth eto, sef cofiant James Nicholas, Cydweli. Yr wyf yn meddwl fod hwn yn deilwng iawn o le mewn rhyw gongl o'r Win- llan. Gwrthddrycb y cofiant hwn oedd fab i David a Rebecca Nicholas, British School, Cydweli, ac yr oedd eu cyntaf- anedig. Y mae yn ymddangos na bu ef erioed yn un cadarn o gyfansoddiad, ond yn hytrach braidd yn eiddil a thyner. Er hyny, yn gynar, gwelid arwyddion ei fod yn feddiancl ar feddwl cryf, ymohwilgar, a chyflym. Yr ydym yn cael siamplau neillduol o hyn weithiau—meddwl galluog mewn coríf egwan. Ond nid yw gwendid cortf, na nerth meddwl, ynddynt eu hunain, ond pethau dibwys. Cyimriad moesol yw y pwnc mawr. Y mae y cymeriad yn wastad yn cael ei lunio yn ol fel y byddo rhediad y meddwl. Os ar ol Duw a'i waith y cyfeiria y meddvvl, y mae y cymeriad yn dda; ond os ar ol y byd a'i wagedd y rhed y sorchiadau, yna y mae y cymeriad yn ddrwg. Y mao gan rieni, yn ddiameu, lawer iawil i'w wueyd tuag at roddi cyfeiriad priodol i fedd- yliau eu plant, a thrwy hyny ffurfio eu cymeriadau. Dylent wnoyd ymdrech mawr i hyny, ac yn enwedig i gyfeirio eu plant at Grist yn moreu eu hoes,