Skip to main content

Y WINLLAN. AM IONAWR, 1863. Y FLWYDDYN NEWYDD. TbWT fawr ddaioni ein Tad nefol, dyma ni wedi cael treulio blwyddyn arall, a dechreu un newydd ar y ddaear. Yn mywyd byr a brau dyn, y mae un flwyddyn yn ffurfio rhan bwysig, ac y mae un flwyddyn wedi myned heibio, yn gryn fwlch ynddo, ac yn fwlch na ellir byth ei wneyd i fyny. Yr un peth fyddai i ni geisio galw yn ol y blynyddau cyn y dylif, a galw yn ol y flwyddyn ddiweddaf. Diolch i'r Ar- glwydd am yr hen flwyddyn (1862) I ni a'n darllenwyr bu yn flwyddyn o lawer o drugareddau. Ereill a fuont feirw, cawsom ni fyw. I'r rhan amlaf ohonom bu yn flwyddyn o iechyd a dedwyddwch; ac os bu i rai o'n dar Uenwyr presenol yn flwyddyn o gystuddiau a thrallodion, o golledion a siomedigaethau, ni bu yn flwyddyn eu marw- olaeth. Wele ni yn fyw i gael dechreu blwyddyn arall. Y fath fraint ein bod yn fy w! " Pahain y grwgnach dyn byw?" Nid yw yn haeddu bod yn fyw; a chan ei fod yn fifw> gall fod yn ddedwydd j " canys i'r neb a fo yn nghym- deithas y rhai byw oll, y mae gobaith." (Preg. ix. 4.) Dylai ymlithriad cyflym a dibaid ein tymorau ein had- gofio nad oes i ni yma ddinas barhaus. Y mae dygwydd- iadau y flwyddyn 1863, gyda golwg ar ein hamgylchiadau, ein hiechyd, a'n heinioes, yn hollol ansicr. Nis gwyddom pa beth a ddygwydd mewn diwrnod ragor mewn blwyddyn. Y mae y dyfodol o'n bywyd yn hollol dywyll a dyeithr. Nis gwelwn ddim o'n blaenau; ac eto, nis gallwn lai na theimlo cy wreinrwydd awyddus yn nghylch •• pa beth a fydd i ni." Y mae y teimlad hwn yn gyfreithlon a naturiol. Mae pobl pob oes wedi ei ddangos, a lluoedd mewn modd ffbl ac ofer- goelus. Y paganiaid a amlygent eu hawydd i wybod y dyfodol trwy yingynghori Uawer â'u duwiau. Cyn myned i ryfeloedd, neu ymaflyd mewn anturiaethau pwysig, arfer- ent ymgynghori â'r oraclau. Rhai o'n cydgenedl—y Cymry