Skip to main content

M\ Y WINLLAN. AM RHAGFYB, 1862. COF B YR. " Syk," ebai dyn, gan gyfarch gweinidog oedd yn inyned adref o'r eglwys un prydnawn Sabboth, " a ddarfu i chwi gyfarfod bachgen ar y ff'ordd yn gyru cert â chribynau a phigfFyrch ynddi ? " " Yr wyf yn meddwl i mi wneyd," meddai y gweinidog; " bachgen â choí byr, onidê ?'' *' Beth a wnaeth i chwi feddwl hyny, Syr ?" meddai y dyn, gan edrych yn syn. " Yr wyf yn meddwl felly," meddaî y gweinidog; " ac yr wyf yn meddwl y rhaid ei fod yn perthyn i deulu â chof byr." " Beth yn y byd sydd yn peri i chwi feddwl felly ?" gofynai y dyn, wedi ei fawr ddyrysu. " Oherwydd," ebai y gweinidog mewn tôn ddifrifol, "fod y Duw mawr wedi cyhoeddi o fynydd Sinai, ' Coeia y dydd Sabboth i'w santeiddio/ ac y mae y bachgen hwnw wedi annghofio y cyfan yn ei gylch." Yr ydym yn hyderu nad oes neb o'n cyfeillion ieuainc nac o'u perthynasau na'u hndnabydd'metb, yn debyg i' bachgen hwn. Y gorchyinyn i gadw yn santaidd y dydd Sabboth ydyw yr unig un o'r deg ag y mae siars benodol arnom i'w gofio. Cofìwch hyn. Cofìwch mai Duwsydd yn gorchymyn. Cofiwch iddo ef ei hun orphwyso ar y Sabboth a'i santeiddio. Cofìwch mai er ein lles a'n cysur ni y neillduodd ef y Sabboth ,• ac am ei santeiddio er mwyn yr hwn a'i gwnaeth. Cofiwch fod pobl dda pob oes wedi ei gadw, a bod barnau trymion wedi disgyn ar ei halogwyr. Cofìwch gadw y äydd—yr holl ddydd, gan godi mor foreu ar y Sabbotfi ag y gwnewch ar y dyddiau ereillj ac ystyried gan mai un o bob saith a ofyna yr Arglwydd iddo ei hun' ac y rhydd i ni y chwech ereill at negeseuon! tymorol, na'