Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. AM TACHWEDD, 1862. BYR GOFIANT AM THOMAS THOMAS, BACHöENYN O YSGOL SABBOTnOL Y FKON OFFA. Thomas ydoedd fab i James ac Ann Thomas, gynt o Adwy'r Clawdd, yr hwn a anwyd yn y flwyddyn 1849. Dechreuodd weithio mewn gwaith glo yn y Fron, pan oedd oddeutu 11 oed. Oddeutu blwyddyn i'r Nadolig diweddaf, cyfarfyddodd â damwain chwerw yn y gwaith glo, ond ni bu farw ar y pryd, ond parhaodd bywyd ynddo am flwyddyn bron. Yr oedd golwg sobr iawn ar ei gorffyn bach mewn poenau ddydd a nos. Yr oedd y meddygon yn rhyfeddu pa fodd yr oedd yn byw yn nghanol ei ofid chwerw. Nid oedd yr un diwrnod na noswaith yn myned heibio a'r nad oedd yn gwaeddi yn ddigon i ddryliio y galon galetaf. Yr oedd y bachgen hwn yn ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol, ac mewn mocldion ereill o ras. Nid yn aml y gwelwyd ef yn cyfeillachu â phlant drwg, ond byddai yn ymneillduo oddiwrthynt yn gyffredin iawn. Yr oedd Thomas bach wedi cael arwain ei feddwl i dybio mai bachgen drwg ydoedd yn ngolwg yr Arglwydd, a bod hyn wedi dyfod iddo oherwydd ei ddrygioni. Felly, yr oedd mewn petrusder yn nghylch cadwedigaeth ei enaid. Yr oedd yn gweddio yn deimladwy ac yn daer ar i Dduw ei wneyd yn fachgen da. Byddai yn canu llawer yn ei ofid, "Am graig i adeiladu," &c; " Dyma Geidwad i'r colledig," &c. "'Rol eyraedd caerau Salem. lân, Y rhod fydd wedi troi," &o. Bryd arall byddai ei boenau fel pe buasent yn ei dynu oddiwrth ei gilydd. Drachefn, byddai yn cael ychydig hamdden i alw eì feddyliau at Iesu Grist. Yn y llonydd- wch yma oddiwrth boenau, byddai yn cael ei demtio i ddyweyd yn groes i feddwl yr Arglwydd, gan rywbeth,