Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN AM HYDEEF, 1862. RHYFEL MARWOLAETH. PREG. VIII. 8. Cypansoddwtd y Uyfr hwn gan Soiomon, fel y tybir yn gyffredin, ar ol ei gwynip, ac wedi ei adferiad trwy edi- feirwch. Amcan y llyfr ydyw dangos gwagedd pethau y bycl hwn, a'r angenrheidrwydd i ymbarotoi erbyn byd i dd'od. Y mao y inan, y modd, a'r amser i ni ymadael â'r byd hwn, yu anhysbys; cauys pwy a ddeugys iddo pa bryd y bydd ; sef, pa bryd y bydd farw ? Y byddi farw sydd sicr, oblegid uiarbed yw y gelyn mawr a gailug hwn, o'r ergyd cyntaf a roes i Abel hyd yr awr hon; ac oddiar pan archwaethodd waed a chnawd dynol, y mae hyd heddyw heb ei ddiwallu, gan rodio yn fuddugoliaethus yn mhlith holl genedloedd y ddaear. Gwnawn rai sylwadau ar ryfel marwolaeth. 1. Angeu yw tywysog a blaenor y rhyfel. Mae dyn yu gyfansoddedig o ddwy ran,—corffac enaid. Y corff yn wahanedig oddiwrth y meddwl ni byddai yn uwch yn ngradd funtol creadigaeth na'r creadur afresymol. Y meddwl dracheíh ar wahân oddiwrth y corff, ni byddai ond yn nosbarth yr engyl. Ac heb undeb rhwng y ddau, ni byddai y cyfenwad dyn ond gair gwag a diystyr mewn iaith; a dattodiad yr uudeb, neu ymadawiad corff ac en- aid oddiwrth eu gilydd, ywmarwolaeth. Mae yr amgylch- iad yn cael ei alw dan amrywiol enwau ; megys, ymadaw- iad o'r byd hwn i fyd arall; dattod y babell; myned i ffordd yr holl ddaear; dychwelyd i'r llwch; ond yma, gelwir ei' yn rhyfel; ac o bob rhyt'el, dyma y pwysicaf a í'u yn y byd erioed. Y mae yn peithyn i bob rhyfel flaenor, neu dywysog i arwaiu y byddinoedd i faes y gwaed, a llywyddu yn y frwydr. Blaenor y rhyfel hwn y w angeu ; efe yw y tywysog sydd yn arwain ei fyddinoedd i'r rliyfel. Y mae yn meddu ar bob cymhwysder i fyned â'i ryfel yn