Skip to main content

Y WINLLAN. AM GORPHENHÁF, 1862. CREPYDD AR WELY ANGEÜ. Rhaid i'r ieuainc farw fel yr hen. Cyferfydd angeu â rhai yn sydyn, gan eu cymeryd i ffordd mewn eiliad, tra y daw at ereill yn arafaidd a dystaw, gan roddi iddynt amser i ym- barotoi. Ceisia rhai y parodrwydd gofynol, tra yr esgeulusa ereill, ac felly yn adeg eu marwolaeth ymwylltiant gan fraw. Er dwyn fy nghyfoedion icuainc i feddwl yn briodol am farw, ac ymbarotoi i gyfarfod â'r gelyn diweddaf, arweiniaf eu sylw at fachgen crefyddol, diuyarbymtheg oed, yn gwynebu yr amgylchiad. Ei enw oedd G. W. Harley. Bu f'arw yn sir Eaesyfed, yn ddiweddar. Yr oedd George, bob amser, yn fachgen dif'rifol; ac yn foreu iawn meddai syniadau dwfn a phwysig am grefydd. Hoffai ddarllen llyfrau da, a siarad am Iesu a'r nefoedd. Ni bu erioed yn fachgen cryf; ond dangosai ei wynebpryd ei fod o duedd ddifrifol a meddylgar. Arferai y pregethwyr sylwi arno yn gwrando y gair, gan ei fod mor wahanol i ereill ; ymddangosai fel yn yfed y cwbl, a chadwai a glywai yn ei gof. Trysorai y gair yn ei fedd- wl, a myfyriai ar a glywai ac a ddarllenai; amcanai ddeall yn ogystai a chofio. Fel hyn y bu fyw hyd oni chyraeddodd unarbymtheg oed, pryd yr ymaflodd y darfodedigaeth yn- ddo, a buan y gwelwyd nad oedd i fod yma yn hir. Gwyw- odcl ei gyfansoddiad; eisteddai gwelwder ar ei fochau; a phryd arall, gwelid fflam o gochni annatui'iol ar ei wedd, a pliesychai mor boenus, fel na bu ond ychydig o amser heb wywo. Ni siaradai ond ychydig am ei enaid—cadwai ei feddwl iddo ei hun. Yr oedd o ardymer dawel, ac o ychydig siarad; ond fel y cafwyd prawf wedi hyn, yr oedd yn medd- wl Uawer am grefydd, a bu mewn cryn ymdrech yn ceisio gorphwysdra, a chafodd ef. Bu am beth amser yn rhodio mewn tywyllwch heb lewyrch iddo, ond torodd y wawr. Dichon iddo ymddiried yn ormodol mewn gweithredoedd