Skip to main content

Y WINLLAN. AM MEHEFIN, 1862.: GWEDDILLION Y DIWEDDAR GEORGE MOR- GAN, CYDWELI. PREGETH. " Choyn eu byd y rhai sydcl yn galaru : canys hwy a ddyddanir." Mat. v. 4. Y geieiatt hyn ydynt ran o bregeth werthfawr yr Ar- glwydd Iesu ar y mynydd. " Ni lef'arodd dyn erioed fel y dyn hwn." Dynion yn fynych a'n bendithiant â'u tafodau, pan nad allant, neu na wnant ein cynorthwyo â'u dwylaw, Dynion weithiau a'n bendithiant ù'u geneuau, ond a'n mell- dithiant yn eu calonau. Mor wahanol ydyw bendith Crist! Yr hwn a fendithia efe sydd fendigedig yn wir. Hefyd, dynion a gyhoeddant yn fendigedig y cyfoethog, yr hwn nìd oes arno na newyn na syched, ac yn enwedig yr hwn sydd lawen ; ond Iesu Grist yn hytrach a ddywed, Gwyn eu byd y tlodion, y rhai newynog, a'r rhaisydd yn galaru. I. Y cymeeiad yn Y TESTYîî:—" Y rhai sydd yn galaru." Nid yw pawh sydd yn galaru yn wynfydedig er hyny. " Y mae tristwch y bycl yn gweithio angeu." Y mae llawer yn galaru yn naturiol, am ryw golledion neu siomedigaethau poenus, ac y mae hyny yn gyfreithlon weithiau j ond nid yw y galar hwn yn cyfeirio at wynfyd. Y mae llawer ereill yn galaru am bethau na ddylent; ac y mae rhai yu galaru yn y byd hwn, a fyddant yn galaru byth yn y byd arall. Ond y galarwyr yn y testyn a gyhoeddir yn wynfydedig gan Grist ei hun. Y maent yn galaru, 1. Oherwydd eu pecliod a'u trueni eu hunain. Felly nid ydynt yn galaru heb achos. Y maent yn eu gweled eu bun- ain fel troseddwyr o gyfraith santaidd Duw, a thrwy hyny wedi dyfod yn agored i holl lidiawgrwydd ei gyfìawnder ef. Y maent yn edrych ar bechod yn ei liw a'i erchylldra pri- odol ei hun. Y maent hwythau yn euog o'i gyflawni fil-