Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. AM MAT, 1862. GWEDDILLION Y DIWEDDAR GEOEGE MORGAN, CÍDWELI. Mu. Gol.—Yn nghofiant George Morgan, Cydweli, a ymddangos- odd yn y V\'inllan er ys tro yn ol, chwi gofiwch i mi ddweyd fod yn fy llaw ychydig o ffrwyth ei feddwl ar wahanol destynau. Awgrym- ais hefyd, os byddech yn caniatau, y caent ymddangos yn y Winllan ar ol hyny, V\ el, dyma y darnau bychain oedd roewn golwg genyf. Na feddylied neh fy mod yn eu gwthio i sylw am y tybiaf fod ynddynt ryw fawredd, gwreiddiolder, neu unrhyw ragoriaeth neilíduol, ond yn unig fel siampl o ymgais pleniyn mewn pethau da. Yr wyf wedi eu hail ysgrifenu, a thrcfnu ýchydig grnynt, ond heb gyfnewid dim ar y meddwl. Os caniatewch iddynt gongl fechan mewn j'chydig rifynauo'r Winllan, chwi a foddhewch berthynasau a chyfcillion yr ymadawedig, a gallant weinyddu plcser a llesâd i laweroedd o'ch darllenwyr ieuainc. Cyduieli. Berwtn. EDIFEIRWCH. Y mae yr ysgrythyrau santaidd yn son am ddau fath o edifeirweh, sef', edif'eirwch rhagrithiol, ac edif'cirwch ef'eng- ylaidd. Ond sylwn ar edifeirwch efengylaidd yn unig. 1. Yn ei nattjr. Y darnodiant cytf'redin o edifeirwch ydyw, "Cyfnewidiad yn y mecìdwl;" ond wrtli sylwi yn fanylach, gwelwn ei fod yn cynwys y pethau canlynol: — 1. Argyhoeddiad o bechod, sef dyn, yn ngoleuni ysbryd Duw, yn edrych arno ei hun fel y mae, yn bechadur ffiaicld, condemniol, a gwir druenus. Y mae yn rhaid i edifeirwch dclechreu yn y fan yma, ac heb hyn nid oes edifeirwch. Y mae gweithrediadau yr Ysbryd Glân ar y meddwl yn han- fodol er dwyn oddiamgylch edifeirwch, canys trwy feithrin a deí'nyddio ei oleuni yr argyhoeddir y pechadur am ei drueni a'i berygl. 2. Hunan-ffieiddiad a galar am bechod. Tra y mae yr anedifeiriol yn edrych yn ffafriol arno ei hun, ie, yn meddwl yn dda iawn amdano ei hun, y mae yr edifeiriol, yr hwn sydd f'el y mab afradlon gynt "wedi dyfod ato ei