Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. AM EBRIIL, 1862. YCHYDIG 0 HANES MARTHA BAINES, TEEDEGAE. Ganed y ferch dda hon yn Nhredegar, Hydref y 4ydd, 1849. Yr oedd ei rhieni, David a Jane Baines, yn aelodau flÿddlon o'n cymdeithas cyn hyny flynyddau, a thrwy hyny cafodd addysg a chodiad crefyddol. Treuliodd rai o'i dydd- iau boreuol yn Rhuddlan gyda'i maiu-gu, ac adroddai ar gyhoedd bennodau yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yno, am fod ei mam-gu yn aelod o'r capel hwnw. Gwnai ei hieuenctid hynod, ei llefariad croew, a'i hadroddiad di- wall, synu llawer. Yr oedd yn mhell o flaen ei chyfoedion. Ai yn gyson, ac o fodd ac awydd, i'r Ysgol Sabbothol, pa un bynag ai gartref ai oddicartref y byddai. Dysgai ben- nodau, adnodau, prydyddiueth, a'r cyff'elyb. Clywais hi yn adrodd " Beibl Mawr fy Mam," a darnau ereill, yn dda iawn. Gallai daflu cryn deimlad a synwyr i'r hyn a ad- roddai, a byddai ei hymddygiad yn dra difrifol, ac nid fel plant yn gyö'redin, y rhai a adroddant yn rhy aml fel y dywed parrot ei eiriau cyí'arwydd. Cawn gyfleusdra weithiau i ymweled â'r Ysgol Sul yn Nhredcgar. Holwn y plant yn wastad, a chawn fod Mar- tha gyda'r parotaf, os nad y barotaf yn wastad i ateb y gofyniadau a ddodwn iddynt. Nid pethau wedi eu dysgu yn rhigwm o lyfr, fyddai y gofyniadau, ond pethau ar hyd ac ar draws, pa rai a dueddent i ddangos mesur gwybod- aeth ysgrythyrol y neb a holid felly. Pan fyddai Cyfarfod Ysgol, byddai gan Martha Baines amrai bethau yn barod i adeiladu a dyddori y gynulleidfa. Ymhyfrydai mewn canu, a chofiai dônau, bychain yn dda iawn. Os oedd plentyndod dymunol yn rhyw ddangosiad o ddyfodiaut y bywyd, diameu pe cawsai gwrthddrych ieuanc hyn o gofiant ei harbed, y buasai yn addurn i gymdeithas grefyddol. Ond nid felly y rhyngodd bodd i'n Tad nefol.