Skip to main content

Y WINLLAN. Al CHWEFROR, 1862. LLIFEIRIANT. "Dygi hwynt ymaith megys â llifeiriant," Mae angeu yn cael ei gyffelybu yn yr ysgrythyrau i amryw bethau, a hyny bob amser gyda golwg cldychrynllyd a chy- ffrous. Ac nid y leiaf yw y gymhariaeth hon. Eeth sydd mor gyffrous a gweled y llifeiriant gorwyllt yn chwyrnellu i lawr tua'r môr, gan ysgubo pob peth o'i flaen, a dyweyd yn ei iaith nad oes dim a'i lluddias ? Mae y llifeiriant yn dyfod yn ddisymwth iawn yn aml, ac yn enwedig felly yn ngwledydd y dwyrain. Mae ein Harglwydd, yn ei bregeth ar y rnynydd, yn rhybuddio ei wrandawyr i adeiladu eu tai ar y graig, rhag i'r llifeiriant eu taflu i lawr. Mae llawer wedi myned i'w gwely yn ddigon difeddwl, gan adael eu heiddo heb ei roddi mewn diogelwch; ond erbyn y boreu, y llifeiriant wedi ei ysgubo yinaith. Felly y mae angeu yn dyfod yn ddisymwth ac annysgwyliadwy iawn. Llawer sydd yn tynu cynlluniau am lawer o flynyddoedd, heb feddwl fawr fod angeu yn dyfod, ac fe allai yn ymyl; fel y gŵr goludog hwnw yn dyweyd wrth ei enaid fod ganddo "dda lawer wedi eu rhoddi i gadw am lawer o flynyddoedd," heb feddwl fawr mai y nos hono yr oedd angeu yn dyfod, ac y " gofynant dy enaid oddiwrthyt; ac eiddo pwy tÿdd y bethau a baroto- aist ? Bydded i ni gofio bob amser, pan yn meddwl gwneyd y peth hyn ac arall, am gynghor Iago: " Os yr Arglwydd a'i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn neu hyny." Mae y llifeìriant yn dyfod yn anwrthwynelol.—Ofer yw i ni godi gwrthglawdd yu ei erbyn—y mae fel pe bae yn gwawdio ein holl ddyfàis. Mae yn gofus genym weled unwaith anifeiliaid yn myned gyda'r llif i waered tua'r môr. Er gwneyd pob ymgaís i'w hachub, yr oedd y cwbl yn annigonol, nid oedd dim i'w wneyd, ond eu gadael i drugaredd y dyfroedd. Yr un modd y mae angeu yn dyfod