Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN, Rhif. 12. Am Rhagitb, 1861. Cîs. XIV. Y GORFOLEDD A'R GROES. " Gan ymorfoleddu arnynt arni hi." Wrth i ni edrych ar Iesu yn ymorfoleddu ar y groes, yr ydym yn edrych ar gyfnod newydd yn hanes ei fywyd, ac agweddiad newydd yn ysgogiad ei feddwl; oblegid " gŵr gofidus cynefin â dolur'' a fu trwy ei holl fywyd, hyd nes y gorchfygodd ei holl elynion ar y groes. Pan y bu wrth fecîd ei gyfaill Lazarus, fe wylodd; pan yn yr ardd, bu mewn " llefain cryf a dagran," ac mewn mawr wasgfa, yn dweyd " Trist iawn yw fy enaid hyd angeu j" a gwelwyd ef yn wylo hefyd uwchben y ddinas. Ond dywedir i ni, pan y daeth y dysgyblion ato i ddwoyd wrtho am lwydd- iant eu gweinidogaeth, " yr awr hono yr Iesu a lawen- ychodd yn yr Ysbryd;'' er hyny yr oedd meddwl am yr ymdrech olaf gyda gallu y tywyllwch yn gwisgo ei fywyd â phrudd-der, Gallem feddwl wrth edrych arno ar y groes, yn nghrog rhwng Uadron, fel drwg weithredwr, yn nghanol llu o'i wawdwyr, wedi ei adael gan ei berthynasau a'i gyfeillion, y buasai i'w ofid chwanegu, a'i drallod fwyhau, ac y buasai diwedd ei fywyd yn waeth na'i ddechreuad: ond nid felly y bu; trôdd amgylchiadau y groes yn orfoledd mwyaf iddo. Wrth i ni gysylltu gorfoledd â'r groes, yr ydym yn cy- sylltu y ddau eithafnod mwyafynbod; oblegid galar fu ac y sydd yn gysylltedig á'r gwarth hwn. Ysgrifenwyd, " Melldigedig yw pob un sydd yn nghrôgar bren," Hefyd, nid oes amheuaeth yn y cwestiwn, na ddarfu Satan feddwl, ond cael Iesu i'r groes, y gwelsid diwedd ar ei holl am- canion a'i obeithion, ac y gwelsid cwpan ei drallod gwedi ei orlenwi. Dywedai ei elynion, " Hwn yw yr etifedd, deuwch, lladdion ef, abydd yr etifeddiaeth yn eiddo i ni.'' Ond fel arall y dygodd anfeidrol ddoethineb bethau i ben ; profodd y dirmyg a'r gwarth mwyaf a allasai y meddwí