Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 11. Am Tachwedd, 1861. Cîf. XIV. BYDDWCEI BAROD. Mae dyn trwy bechod wedi myned yn hollol annghymhwys i farw, a chael cymdeithasu â Duw a'r Oen, yn y byd hwn a'r byd a ddaw. Dyna ddywedodd yr Athraw Mawr wrth Nicodemus, " Yr hyn a aned o*r cnawd sydd gnawd." Nid yn unig mae preswylwyr rhyw wlad neillduol felly, ond y mae dynolryw heb eithriad. "Megys y mae yn ys- grifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un." Y mae pob dyn, hyd nes y cyfnewidier hwy trwy ras Duw, yn elynion iddo, ac yn berffaith groes iddo mewn pwynt o anian ac egwyddor. Y mae Duw, o'i anfeidrol gariad, trugaredd, a gras, wedi anfon ei Fab i'r byd i farw dros ddynolryw, fel y gall achuby penaf o bechaduriaid, a bod yn dragwyddoi gyfiawn wrth gyfiawnhau yr annuwiol. üengys yr apostol fod dynion a fu yn annuwiol, ac felly yn anmharod o ran eu cymeriadau a'u cyflyrau, wedi adnabod maddeuant o'u pechodau, a chyfiawnhâd i'w personau. (Rhuf. iii. 24—26.) Ni ddylet, ddarllenydd, ofni ac annghredu na elli gyraedd cymhwysder a pharodrwydd i gyfarfod Duw, yn siriol a dedwydd, yn angeu a'r farn; canys y mae gras a christion- ogaeth yn galluogi eu meddienydd i hyn yn y byd hwn, Hyu oedd profíad crefyddol yr hen erlidiwr ar ol plygu i drefn Duw, a'i frodyr erel'yddol yn Colossa, "Gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymhwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni," Col. i .12. Y mae lioll oruchwyliaethau Duw at ddynion yn cael eu bwriadu ganddo, yn rhagluniaethol a grasol, i feddalhau caledwch calonau plant dynion, rnewn trefn i gyraedd yr amcan rnawr hwn, sef caol yr anmharod yn barod, a'r an- nghymhwys yn gymhwys. Llais yr oll o'i ymddygiadau hynaws a charedig mewn effaithydyw, "Byddwch chwith*- au barod." Byddai yn well, pe bae raid, bod yn annghy- mhwys ac yn anmharod i bob peth, na bod yn anmharod i gyfarfod à Duw! Gelli fod yn sicr, ar sail gwirionedd ei