Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN, Rhif. 10. Am Hydref, 1861. Cyf. XIV. COFIANT FRANCIS HTJGHES, MAB MR. A MRS. ROBERT HTJGHES, MANCHESTER. Gtda theimlad cymysgedig y defnyddiaf fy ysgrifell am y waith gyntaf, yn fy oes fer, i osod gerbron fy nghyfoedion ieuaiac, yn y Winlian, hanes am nodweddiad bachgen bychan a fu byw yn dduwiol, ac a fu farw yn ddedwydd. Ganwyd Francis yn Manchester, Hydref 27ain, 1853, a bu farw yn Chwefror 17eg, 1861, yn 7 mlwydd a 4 mis oed. Cafodd gwrthddrych ein byr gofiant ei eni o rieni crefyddol. Mae ei dad Mr. Hughes yn un o flaenoriaid capel Dewi Sant, a'i fara yn dwyn cysylltiad á'r un cyfun- deb. Yr oedd Francis bach yn uu o'r bechgyn mwyaf caruaidd a welais un amser. Yr oedd o dymer fywiog, ond tyner. Byddai gyda'i gydnabyddion yn rhydd a serchus, yr hyn a barai iddynt ei fawr hoffi. Yr oedd yn dyner ac anwyl gan ei frawd a'i chwaor, ac yr oedd yn " bet" anwyl ei rieni. Yr oedd ynddo lawer o hynodion. Er mor ieu- anc, ofnai yju fawr ddigio yr Arglwydd. Byddai ganddo gymaint o barch i'r Sabboth, fel yr ystyriai fod hyd yn nod ymwneyd â'r llyt'rau a fyddai ganddo yn yr ysgol ddyddiol, yn achosi i üduw ddigio. Byddai yn hotfiawn o fyned i'r ysgol Sabbothol sydd yn cael ei chynal gan y Wesleyaid Cymroig yn Oldham JRoad, ac nid oedd dim ond afiechyd a'i cadwai rhag bod yno„ Byddai yn hoff iawn o bob moddion o ras, ac ni ddychwelai o wrandaw pregeth, un amser, heb fod yn ei gof ryw ran ohoni. Yr oedd llawer o bethau hynod yn cyfarfod ynddo, fel ag y byddai ei gydna- bod yn arf'er dyweyd, " Y mae y bachgen yma yn henedd iawn." " Y mae fel hen ddysgybl," meddai ereill. Caf- wyd nid yn unig flodau, ond ÍTrwyth hefyd arno. Ond er ci ríigoriaethau mad, Yu mlaen daeth brenin braw, I'w dori i lawr; a mam a thad Yn gorfod cefnu draw. Nid oedd o gyfansoddiad cadarn un araser—ychydig bach