Skip to main content

Y WINLLAN, Rhif. 7. Am Gouphenhaf, 1861. Q\y. XIV. YR I AWN. (Parhâd tudal. 103,) III. Yr iawn—yr angenrheidrwydd amdano. Dadleua rhai y gallai Duw faddeu heb iawn, ónd y mae y Beibl yn dyweyd yn groes. "Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant." 1. Yr oedd cyfiawnder Duw yn gofyn am iawn mewn trefn i faddeu pechod a derbyn y troseddwr i'w ffafr dra- chefn. Y mae Duw, o angemheidrwydd natur, yn casau pechod ; o ganlyniad, nis gallai faddeu pechod heb iawn. Y mae y ddeddf foesol yn codi oddiar natur Duw, o gan* lyniad, betli bynag sydd yn groes i'r ddeddf, y mae yn groes i natur Duw. Wel, y mae yn amlwg fod pechod yn groes i'r ddeddf, gan hyny y mae yn groes i natur Duw; o ganlyniad, pe gaüai Duw faddeu heb iawn, gallai faddeu yr hyn sydd yn groes i'w natur ei hunan heb iawn, yr hyn sydd yn hollol afiesymol. Ond wedi y cwbl, dadleua rhai nad yw pechod yn ddrwg mor fawr, a bod yn rhaid i Dduw gael iawn mewn trefn i'w faddeu ; a dyuedant mai dyna yw yr iawn—rhyw fath o gydna- byddiíieth werth/awr i lywodraeth Duw—rhywbeth i wneyd argraíf foesol ar f'eddwl dyn fod pechod yn ddrwg yn unig am ei fod yn lluddias daioni y teulu dynol : a dywedant, o ran Duw ei hunan, y gallasai faddeu pechod heb iawn ; mai dyben yr iawn oedd, nid cael modd i Dduw faddeu i'r euog, ond rhywbeth i fod yn siampl i olwg y byd fod pechod yn ddrwg yn ngolwg Duw, am ei fod yn attal daioni cymdeithas. Ond y mae'r Beibl yn condjemnio yr athrawiaeth yma : y mae'r Beibl yn dysgu fod yn rhaid i Dduw gospi pechod—fod egwyddorion ei natur yn ei rwymoi wneyd hyny: " Ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.'' " Yr hwn sydd lanach 'ei olygon nag .y ga" edrych ar ddrwg, &c." Y mae mor anmhosibl i Dduw beidio cospi pechod ag ydyw iddo beidio bod.