Skip to main content

Y WIN LLA N. Rhif. 6. Am Mehefin, 1861. Cyp. XIV. YR IAWN. Gate bychan yw y gair iawn; ond y ìnae fel y gair cariad yn arwydd o feddylddrych mawr. Llawer a ysgrifenwyd o bryd i bryd ar y testyn mawr a dyddorawl hwn; ond er cymaint a ysgrifenwyd arno, nid yw eto wedi ei ddihyspyddu na'i atngyffred. Y raae fel pynciau mawrion y Peibl yn gyffredin, uwchlawdirnadaeth creadur meidrol. Gweddus pan y byddys uwch ei ben ydyw addoli, gan ddyweyd yn ngeiriau yr apostol, "0 ddyfnder golud, doethineb, a gwybodaeth Duw! Mor anchwiliadwy yw ei farnau ef!" Ond wedi y cwbl, y mae y petlmu sydd yn hanfodol eu gwybod a'u credumewn cysylltiad â'r iawn, yn gorwedd yn ddealladwy i raddau mawr yn y gyfrol ysbrydoledig, ac y mae yn ddyledswydd ar ddyn wneyd ei oreu i ddeall cymaint ag a allo am y testyn pwysig liwn, fel pynciau ereill athrawiaethau crefydd. Dywedwn air neu ddau yn y wedd ddylynol ar y pwnc dan sylw. I. Yr iawn, pa beth ydyw ? Mewn ystyr gyffredinol, dyna yw iawn—petli yn cael ei roi yn lle peth arall. Pan y bydd dyn wedi gwneyd colled i ddyn arall, sonir yn aml am roi iawn iddo yn lle y golled hono. Peth yn Ue yr hyn a ofynir yn wreiddiol yw iawn. Tybier fod dyn wedi ei gollfarnu i gael ei ddienyddio, a thybier fod cyfaill gorfynwesol iddo yn cynyg myned dan y gollfarn yn ei le, gellid dyweyd y byddai person y cyfaill hwnw yn iawn yn lle person y troseddwr, os gwnai y ddeddf ei gymeryd. Felly yn ysbrydol, yr oedd dyr. wedi ei ddamnio eisioes mewn ystyr foesol yn llywodraeth Duw : ond dacw Iesu Grist o gariad atlwch y Uawr yn myned dan y gollfarn yn ei le. " Yr Arglwydd a roddes arno ef oin hanwiredd ni i gyd." " Yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni." Yn awr gellir dywoyd fod Iesu Grist yn iawn i Dduw yn lle person yr euog. Gofyn yr euog yr oedd y ddcddf. Nid oedd ganddi hawl i