Skip to main content

Y WINLLAN Rhif. 5. Am Mat, 1861. Cît. XIV. COLLI'R TRAIN. Y MAE hyn yn beth ag sydd yn cymeryd lle yn fynych. Oddeutu gorsafoedd y gledrffordd, yn awr ac eilwaith, gellir gweled pobl o bob gradd ac oedran yn edrych o'u hamgylch yn siomedig a thrallodus, ac weithiau yn crafu eu penau, ac yn sychu y chwys oddiar eu gwynebau, wedi colli'r train. Y mae yr achos o hyn yn amrywio. Weithiau y mae yn dygwydd o herywdd diffyg gwneyd ymlioliadau prydlon a manwl yn nghylch amser cychwyn- iad y train o'r station y cyfeirir ati; bryd arall o herwydd oedi cychwyn i fyned tuag at y cyfryw le mewn amser; ac yn fynych, y mae hyn yn dygwydd o herwydd ymdroi yn ormodol ar y ffordd: ond pa un bynag, y mae y can- lyniad yn gyffredin yn boenus, ac weithiau yn hynod bwysig. Wel, a oes rhyw wers i'w dysgu. oddiwrth beth fel hyn ? Y mae pob dyn meddylgar a ddygwyddo golli'r train, o leiaf yn sicr o ddysgu bod yn fwy gofalus y tro nesaf; ac onid oes rhyw addysg fwy cyffredinol i'w gael yn hyn ? Gwelwn y pwysigrwydd o " brynu yr amser" trwy ddefnyddio pob cyfleustra tra yn cael ei ddal o'n blaen. Y mae amser yn debyg iawn i'r ger- bydres yna;—tra yn teithio yn gyflym, er hyny yn agor ger ein bronau yn fynych gyfleusterau gwerthfawr yn ei ffordd, gan gludo yn mlaen yn esmwyth y rhai hyny a fyddant yn barod i dderbyn ei chynygion, ond yn gad- ael y rhai diofal ac anmharod ar ol i ymboeni yn siomedig. Dywed y gvvr doeth, fod " amser i bob peth." Ond yn hytrach na chymeryd hyn yn rheswm dros chwareu ein hamser ymaith yn ddiofal, fel y gwna llawer yn cithaf ysgafn, nyni addylem ymholi, a ydym yn gwneuthur pob peth yn ei amser, gan ystyried fod gan bob un ei ddyled- swyddau penodol i'w cyflawni, ac amserau neillduol i'w cwblhau, y naill wedi ei osod ar gyfer y llall yn ddoeth,