Skip to main content

Y W I N L L A N . Rnii'. 3. Am Maweth, 1861. Cyi?. XIV. MARWOLAETH DDEDWYDD BACHGEN" DA. Tua blwyddyn yn 61, bu i amrai ieuenctid ymuno âg aclios y Wesleyaid Cymreig yn Nantyglo. Yn eu plith, yr oedd un o'r enw William Thomas Elldns. Yr ydoedd Ẅilliiim er yn blentyn yn ddeiliad cyson o'r Ysgol Sabbothol, yr hyn a fu o fendith fawr iddo. Wedi iddo ymuno â'r achos, cafwyd ei fod yn un o'r rhai mwynf cywir ac eg- wyddorol gyda chrefydd. Cyfarfyddai yn gyson yn ei restr, ac ymddangosai bob amser yn syml a dif'rifbl iawn. Pan yn adrodd ei brofìad, byddai yn neillduol o ddrylliog yn tystio ei gariad at Iesu Grist, a'i henderfyniadj ymlynu gyda'r achos goreu hyd y bedd. Amlygai awydd niawr i fyw yn well, ac ymofidiai na fuasai ei gyfeillion ienainc yn byw yn fwy addas i grefydd. Yr oedd rhyw arwyddion gobeithiol iawn yn y bachgen hwu y buasai, yn mhen amser, yn un defnyddiol iawn gydng achos Iesu Grist. Ond cafodd y dysgwyliadau hyn eu siomi, canyatua chanol mis Awst cymerwyd ef yn glaf, ac aeth wanach, wanach, nes o'r diwedd yr ymadawodd ei yshryd dedwydd at yr Arglwydd, ar yr 20fed o Medi, 1860.J yn 13eg mlwydd oed. Yn ei gystudd, ymwelwyd âg ef gan ei flaenor, ac amrai o gyfeillion hoff, a chafwyd ef yn gyfTredin mcwn teimladau dedwydd iawn, yn gweddio ar ei Dad goreu, ac ar Iesu Grist, ac yr oedd yn hoff o glywed ei gyfeillion yn darllen a gweddio gydag ef. Un tro, ofnai nad oedd wedi bod ddigon o amser gydag achos yr Arglwydd i gael myned i fyw at Grist. Dywedodd ei fodryb wrtìio am bwyso ar yr Iesu, ei fod Ef yn abl i'w gadw. Boreu dranoeth, dywedai ddarfod i'w fbdryb ddyweyd y gwir y nos o'r blaen, a'i fod ef wedi ffánàio fod Iesu Grist yn gallu ei achub ef. Un diwrnod, galwodd am ei nain. Pan ddacth yr hen wraig