Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WIN LLAN. Rhif. 2. Am Chwefrob, 1861. Ctf. XIV. I T A L Y. Mawe yw y gwaith sydd wedi ei wneyd yn Italy yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Mewn traws-symudiad yr oedd pethau pan ysgrifenwyd yr Itaìy in Transition ; ond erbyn hyn y mae chwyldroadau anferth wedi cymeryd lle yno. Y mae y rhan fwyaf o'r wlad yn dyfod yn deyrnas rydd dan lywodraeth Victor Emmanuel. Y mae yr arwr dyngarol Garibaldi wedi llwyr orchfygu yn Naples, y brenin wedi ffoi o'i flaen, a'r genedl wedi ei symud o ga ethiwed i ryddid dan frenin Sardinia. Ein gobaith yw y daw Italy oll yn deyrnas rydd ac unedig. Gwir nad yw y Pab eto wedi gadael Rhufain, ond y mae yn cyflym golli oi awdurdod, ei adnoddau, a chalonau ci bobi. Y mae y Babaeth fel tŷ wedi ymranu yn ei erbyn ei hun. Y mae y Beibl a Uyfrau da yn cael eu gwerthu a'u darllen yn Italy, a rhyddid i dros unarddeg o filiynau o'i thrigolion i'w derbyn a'u darllen! Y mae addysg yn cael cefnogaeth, ac ysgolion yn cael eu sefydlu dan nodded a thrwy haelioni Victor Emmanuel, drwy ei holl deyrnas. Rhoddodd Garibaldi yn siriol iawn dir yn Naples i adeiladu cglwys Seisnig Brotestanaidd arno; ac y mae yn dyweyd yn eglur wrth yr Italiaid mai y Pab yw annghrist a'u prif elyn hwy. Hir oes i'r dyn rhyfedd hwn ! Dan nawdd Rhag- luniaeth Ddwyfol y byddo ef, a'i feistr, Victor Emmanuel, a Count Cavour, a holl waredwyr Italy ! Nid ydym am greu na meithrin ysbryd politicaidd yn ein darllenwyr ieuainc, ac nid ydym chwaith am iddynt sefyll draw yn ddisylw, tra y mae gorseddau gorthrymwyr crefyddol a gwladol yn malurio i'r llwch, a'r bobl a sathr- asant dan eu traed yn codi o'r llwch i ryddid a goleuni. Yr ydym am i chwi weddio mwy am i doyrnas annghrist gaeí ei dryllio yn llwyr, am ì'r Iesu yn fuan fbd yn Prenin yn mhob man, ac am i'r Ysbryd Glân gael ei