Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Ehiî. 1. Am Ionawb, 1861. Cyf. XIV. ANERCHIAD I'R DARLLENWYR. Anwyi Gyfeillion.—Nid heb deimlo peth pryder yr ydyrn yn dyfod i gysylltiad am dymor â'r Ẅinllan, ac níd heb ddymuniad a gweddi am i'r cysylltiad hwnw gael ei fendithiö i fod o ryw les i'n holl ddarllenwyr. Nis gallwn lai na meddwl am y dyfodol sydd o flaen ein darllenwyr ieuainc, ac am y pwys mawr sydd i'ch cymeriad gael ei iawn-ffurfio, fel y gallwch lenwi y gwahanol gylchoedd o ddefnyddioldeb fydd yn y man yn ymagor o'ch blaen. Yn ddiweddar wrth deithio hyd lan yr Ystwyth, a syllu ar y golygf'eydd amrywiol,—weithiau yn gwasgaru ei thywod hyd y dolydd gwastad, bryd arall yn rhedeg yn gyflym a digof'us drwy y dyfngwm coediog allan o olwg y Uygad,— tynwyd ein sylw gan blanigfa hardd ar fin yr afon, yu cynwys miloedd o blanigion ieuainc o wahanol rywogaethau o goed. Pam y rhaid cael cynifer a hyn ? a pham y rhaid í'r dynion acw fod mor ddiwyd yn meithrin y coed ieuainc ? Wel, mae y blanigfa hon o bwys mawr. O honi y ceir cocd i'w trawsblanu mewn gwahanol ranau o'r etifeddiaeth. Rhai o'r coed bychain hyn, mewn amser, meddyliem, a ddefnyddir efallai i wneyd dodrefn pryd- ferth neu bsirianau cywrain; rhai i wneyd llongau marsian- diol neu ryfel-longau cedyrn; rhai efallai yn gynal-byst telegraph y rheilffordd fwriadedig gerllaw, i gludo gwybod- aeth gyda chyflymdra melltenaidd ; a rhai ni ddeuant yn ddim ond defnydd tân. Ein gobaith yw fod dyfodol ded- wydd a defnyddiol iawn o flaen " Planigion Olewydd " ein Gwinllah" ninau, y deuant oll yn " brenau cyfiawnder," ac i ffrwytho hyd yn nod yn eu henaint; ac na ato Duw i'r un ohonoch gael ei dori i lawr, a'i daflu i'r " tân an- niffoddadwy." Êhodded yr Arglwydd i chwi oll ras; ac o'ch mysg cyfodod Uawer o flaenoriaid selog, o bregethwyr dawnus, ac o genadon gwrol dros y Gwaredwr.