Skip to main content

Y WI N LLAN. Rhif. 11. Am Tachwedd 1860. Cxf. XIII. ETHOLEDIGAETH A GWETHODEDIGAETH. Mae yn wir fod rhai yn haeru dros yr arfaeth o ethol- edigaeth, ae yn ceisio ymwrthod â'r arfaeth o wrthodedig- aeth. Y maent yn haeru ddarfod i Dduw, trwy arfaefch bendant a diamodol, ethol rhai i fywyd ac iachawdwr- iaeth; ond na ddarfu iddo trwy un arfaeth o'r fath ordeinio y rhan arall o ddynolryw i ddinystr. Dyma y rhai y dymunwn eu cyfarch gyntaf. A gadewch i mi atolygu arnoch, frodyr, er enw trugareddau Duw, ddyrchafu ohonoch eich calonau ato ef, ac erfyn arno eich gwaredu oddiwrth bob rhagfeddiant, oddiwrth ragfarn eich ieuenctid, ac oddiwrth bob peth a ddichon attal goleuni Duw i lewyrchu ar eich eneidiau. Gadewch i ni yn bwyllog ac yn onest bwyso y pethau hyn yn nghlorian y cysegr. A gadewch i'r cyfan gael ei wneyd mewn cariad ac addfwynder doethineb, fel y gweddai i'r rhai sydd yn ymladd dan yr un Cadben, ac yn gobeithio eu bod yn gyd-etifeddion trwyddo ef o'r gogoniant a ddad- guddir. ; Yr wyf yn credu mewn gwirionedd mai yn mhurdeb eich calonau yr ydych yn amddiffyn yr arfaeth o ethol- edigaeth ddiamodol; 'ie, gyda'r un cywirdeb ag yr ydych yn gwrthod ac yn ffieiddio yr arfaeth o wrthod- edigaeth ddiamodol. Ond erfyniaf arnoch ystyried a ydych chwi yn gyson & chwi eich hunain: ystyriwch, a ydyw yn bosibl ysgar yr etholedigaeth hon oddiwrth wrthodedigaeth ; a ydyw y naill yn cynwys y llall yn y fath fodd, fel, os deliwch y naill, y mae yn rhaid i chwi ddalyllall. Mai dyma oedd barn y rhai a fyfyriodd ddwysaf ar natur yr arfaethau hyn, yn Nghymanfa y Duwinyddion Seisnig ac Albanaidd, a'r Eglwysi Diwygiol yn Ffrainc a'r Isel-diroedd, a Mr. Calfin ei hun, sydd amlwg tuhwnt i bob gwrthbrawf oddiwrth eu geiriau eu huaain. " Y