Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 7. Am Gorphenhaf, 1860, Cyf. XIII, GORONWÎ OfEN, Nid oes odid un darllenydd Cymreig a'r nad yw yn dra hysbys àg enw yr awenyddol Goronwy Owen. Y mae yn gofus genyf fy mod yn lled hysbys gyda'i weith- iau pan yn bur ieuanc. Mynych y bûm yn teimlo wrth ddarllen ei fywgraffiad, yn enwedig ei lythyrauteimladol, y rhai a gyhoeddwyd yn y Gwyliedydd. Bu bywyd Go- ronwy yn dra helbulus o'i gryd i'w arch. Cafodd ei ddwyn i fyny yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig; a phe buasai athrylith orddysglaer yn meddu hawl i fyw- oliaeth fras oddiar ddwylaw esgobion anwladgarol, diau y cawsai Goronwy un o'r lleoedd brasaf yn esgobaethau Bangor a Llanelwy. Nid fel hyn y mae wedi bod nac yn bod yn Nghymru, onidê ni chawsai Goronwy ac Ieuan Glan Geirionydd eu trin a'u hesgeuluso fel y cawsant. Bu esgobion Seisnig yn dra niweidiol i nerth a dylanwad yr eglwys yn y Dywysogaeth. Yr oedd Goronwy yn gor- fod cadw ysgol ddyddiol, a gwasanaethu yn gurad am y swm isel-wael o chwe phunt ar ugain yn y flwyddyn! "A beth yw hyny," meddai, " tuag at gadw tŷ a chy nifer o dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud, a'r bobl yn dostion ac yn ddigymwynas?" Bu nifer luosog o ddynion a thrylithfawr mewn helbulon a thlodi enbyd ar hyd eu hoes. Y mae yn anhawdd peidio teimlo wrth ddaillen bywgraffiad yr enwog John- son, lle y dywedir ei fod ef a Savage y bardd, o eisieu arian i dalu am lety, yn gorfod rhodio yn lled aml ar hyd heolydd Llundain dan y boreu. Byddent yn eu hym- ddyddanion yn diwygio'r byd, yn diorseddu tywysogion, yn sefydlu ffurf newydd o lywodraethiad, ac yn rhoddi cyfreithiau i lysoedd Ewrop. Y mae pob nieddwl di- wylliedig yn cael mwy o fudd ac adeiladaeth wrth ddar llen am helyntion a thrafferthion dynion athrylithgar, nag wrth fyfyrio ar wrhydri a barbareidd-dra gwroniaid ar faesydd celanedd a gwaed. Os bu dyn erioed yn