Skip to main content

Y WI N LLAN. Rhie. 6. Am .Meheein, 1860. C«S. XIII. Y DBFPEOEDIG A'R CRISTION. SYLW AB RHUF. TII. 14—2&. Gan y cymerai y testynau uchod dipyn o lejpe bawn yn eu hysgrifenu, dymunir i'r darllenydd droi atynt yn ei Feibl, u'u hystyried yn fanwl, cyn dechreu darllen yr ysgrif hon. Y mae pawb sydd wedi chwilio tipyn yn gwybod nad yw dynion da yn cydweled â'u gilydd mewn perthynas i feddwl y geiriau hyn; —rhai yn dywedyd mai darlunio profiad y cristion, neu yr ailenedig, y maent; ac ereill a farnant yn hytrach mai'r dyn deffroedig, ag sydd yn ceisio bywyd yn ei ffordd ei hun, a olygir. Gwyddom fod dynion galluog iawn o bobtu i'r ddadl, fel y teimlwn raddau helaeth o wyleidd dra wrth ysgrifenu hjn o linellau. Ond wedi pwyso'r mater yn ein meddwl, yr ydym yn teimlo awydd am i tithau. ddarllenydd, gael ei wybod ar hyn. Fe'n tueddir i gredu mai nid rhesymau nerthol, na thuedd ac amcan y geiriau a'r cyd-destynau, sydd yn peri i ddynion^feddwl mai yr ailenedig a fedd- ylir, ond am fod yma ryfel yn cael ei darlunio rhwng y cnawd a'r ysbryd, deddf y nieddwl a deddf yr aelodau, A. thybir fod yr ymdrechfa yn oael ei gosod allan mewn ymadroddion o'r fath natur, fel nas gall neb ond yr hwn a anwyd o Dduw fod yn ddeiliad iddi. Ond y mae yna ryfel arall yn perthyn i fyd y meddwl, yn fiaenorol i'r eyfnewidiad mawr a elwir yn y Beibl yn eni o Dduw, sef ymdrechfa meddwl y deffröedig, un ag y mae egwydd- orion moesol ei reswm a'i gydwybod wedi eu dwyn gan yr Ysbryd Glân i oleuni y gair. Mae yn dra eglur, wrth droi i fewn ac edrych ar ddalenau llyfr ein hymwybydd- iaeth, fod tnewn bod moesol y f'ath egwyddorion, yn nghyfansoddiad ei reswm a'i gydwybod, sydd o angen- rheidrwydd yn taro o du yr uniawn, y cyfiawn, a'r da, o dan bob amgylchiadau : ie, byddant yn aros yr un o ran