Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 4. Am Ebrill, 186Q,. Cyf. XIII. CWPAÎÍ CHWERW Darllenais unwaith am gynifer o wragedd oedd wedi cyfarfod gyda'u gilydd ar ryw achos neillduol yn Hayan- nah ; ac ar ol gorphen eu gorchwyl dirprwyaidd, troisant i ymddyddan am amgylchiadau bywyd. Dechreuodd un son am ei thrallodion, a'r llall am ei phrofedigaethau, ac arall am ei helyntion. Yr oedd un wedi colli mwy o eiddo na neb yo yr ardal, a'r llall wedi claddu dau neu dri o blant prydferth ac addfwyn heb eu cyffelyb yn yr holl wlad, ac arall wedi colli'r piiod hawddgaraf mewn bod. Yr oedd poh un ohonynt yn barod i ddyweyd nad oedd gofid neb fel eu gofid hwy. Ac wedi iddynt oll arllwys eu cwynion, dechreuodd uu arall wneuthur sjlw ar yr hyn a fynegwyd, a dywedodd, " Wel,foneddigesau, yr wyf yn gweled eich bod oll wêdi cael eich rhan o wermod y bywyd hwn; ond pe buasai'r cwbl wedi ei grynhoi gyda'i gilydd i'r un llestr, ni fuasai yn llenwi'r cwpan wyf fi wedi ei yfed." " Pa chwerwdar a'ch cyfar- fyddodd chwi, Mrs. Gray ?'' ebai nn o'r cwmni nad oedd yn gwybod ond ychydig am ei hamgylchiadau. Ar hyn dechreuodd adrodd am helyntion a phleserau ei hoes. Dechreuodd ar ddyddiau ei hieuenctid, a dywedodd, " Cefais fy nwyn i fyny gan rieni parchus yn y hyd, a gofalus am eu teulu, ac anwyl iawn genyf fi. Pan oedd- wn yn nghylch ugain oed, ymunais mewn priodas gyd- a'r gŵr ieuane prydferthaf yn Havannah, y tirionaf yn y byd, a'r un mwyaf diwyd gyda gorchwylion bywyd ynyr ardal. Sefydlasom yn y dyffryn gerllaw ar fin yr afon. Llwyddasom gyda phethau'r bywyd hwn ; ac ffel yr o'edd ein dyddiau yn amlhau, yr oedd ein dedwyddwch yn cynyddu yn barhaus. Cawsom bump o hlant, yn fechgyn tirion ac iraidd i gyd. Llawer gwaith y meddyliais nad oedd dynes ar wyneb y ddaear yn fwy hapus nag oeddwn i. Er fod llawer un a chanddynt lai o lafur a gofal nag