Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EHAGYMADBODD. Y mab i gyhoeddiad tnisol o'r fath ag yw y Winllan, o ran maint, natur, a phris, ei chylch, a'i gwaith priodol yn y cylch hwnw. Ni ddysgwylir gan bobl ddeallgar i'r Winllan gyfranogi o gymeriad llenyddol y Seview uehel- bris a dyfnddysg, na chwaith i geisio ymgysdadlu â'r misolyn swllt a ehwecheiniog, nac, yn mhellach, i fod yn debyg i ran helaeth o gyhoeddiadau y Seison, ag sydd à'a gobaith yn unig am dderbyniad ar gyfrif eu pwysau raewn papur ac inc. Ond amcan cyhoeddiad y Winlían ydoedd rhoi yn nwylaw eiD hieuenctid fisolyn rhad, yn cynwys ysgrifau i'r pwrpas o ddiwyllio y meddwl ieuanc mewn gwybodaeth ysgrythyrol a chyffredlnol, a'r naill a'r llall yn ddilys ac eglur; i goethi chwaeth, ac i greu tueddiadau at ragori yn y pethau sydd deilwng yn ein plant; ac hefyd i ddechreu gwneyd darllenwyr ohonynt; ac i'r cwbl oll ddiweddu yn ngogoniant Duw. Eto, gan fod cynifer o'n pobl ag ydynt, serch mewn oedran addfetach, o herwydd rhai amgylchiadau yn cymeryd y Winllan, a'r dosbarth hwn erbyn hyn wedi dyfod yn lled luosog, mae genym hefyd i gofio darparu, mor helaeth ag y gallwn, ar eu cyfer hwj thau. At hyn y mae y Winllan yn ceisio; ao yr ŷm yn hyderu na fu yn mhell o gyraedd ei nod y flwyddyn hon. Credwn y cydnabyddir hyn gan bawb ag sydd yn deall ei gwir gymeriad ar faes ein llenyddiaeth. Derbynied ein Gohebwyr teilwng a'n Derbynwyr lluosog a charedig ein diolch gwresocaf, a hyderwn y parhânt yn fíyddlon yn dangos yr un caredigrwydd i'r Golygydd parchus sydd yn myned yn Winllanydd y fiwyddyn ddy- íbdol. Bangor, Tach. 7, 1860.