Skip to main content

Y WISLLAN, Rhip. 9. Am Medi, 1859. Cyf. XII. HANES PETHAU YN NGHYMRU. 1750. — Daeth y Parch. John Wesley gyntaf i Gymru trwy daer wahoddiad Mr. Howell Harris, Trefecca, a Mr. Wm. Jones, o Gastell Ffonmon. Pregethodd ar y Dafoden, yn swydd Fynwy, ac yn Mhontypwl, ac aeth i Gaerdydd, yn sir Forganwg. Yr ail waith y daeth i Gymru, daeth yn mhellach i swydd Frycheiniog, a dechreuodd Gymdeithasau yn Ab- erhonddu a Chaerdydd, a pharhaodd i ddyfod trwy sir- oedd y deheudir mor ami ag y gallai hyd 1790, pan y gorphwysodd oddiwrth ei lafur. Aeth i Aberhonddu y tro olaf hwn, a phregethodd yno am 9 ac am 6. Wrth gynghori'r Gymdeithas fechan ag oedd ganddo yno, dy- wedodd, " Mae rhai o'm cyfeillion am i mi roddi heibio fy llafur; ond nid wyf yn meddwl am hyny tra dalio yr hen babell.'' 1765.—Gwnaeth Mr. Wesley y gylchdaith gyntaf yn Nghymru, a rhoddodd ar swydd Forganwg y Parch. Martin Roddo; ac ar swydd Benfro, y Parch. Thomas Newell; u byddent yn newid, gan fyned trwy swyddau Caerfyrddin a Brycheiniog. 1767.—Dyma'r flwyddyn y gwnaed y Cofnodau gyntaf am yr aelodau a'u rhifedi—232. Dechreuodd un o'I enw Mr. Henry Lloyd, o Bontfaen, yn mro Morganwg, bregethu ; a chan ei fod ef yn gallu'r ddwy iaith, byddai yn pregethu yn Gymraeg ac yn Seisneg. 17G8__Daeth y Parch. Thomas Taylor i swydd Benfro, a chafodd weled mawr lwyddiant ar waith yr Arglwydd mewn llawer man. Bu ei enw yn anwyl iawn am amser maith gan lawer o'r hen bobl. Yr oedd efe yn un o'r rhai cyntaf a ddaeth i gynorthwyo Mr. Wesley. Daeth allan i deithio yn 1761. 1769.—Yn y flwyddyn hon y gwnaed Caerlleon-Gawr yn Gylchdaith. Pan oedd y Parch. Mr. Greenwood yno,