Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y W.INLLAN. Khif. 7. Am Gorphenhafj 1859. Ctp. XII. HEN ADGOFIO N. (MARWOLAETH MERCH AMODIFAD.) Yr oedd yn cartrefu mewn bwthyn tlawd yn un o bentrefydd gwledig awydd B—. Bu ei mam farw o gylch ugain mlynedd yn ol. Nid oedd iddi na brawd na chwaer. Ni fu nemawroddioartref trwy ei hoes. Gwnaeth ei meddwl i fyny i beidio gadaei ei thad, beth bynag a'r a fyddai. Pan y cefais gyntaf adnabyddiaeth ohoni, yr oedd oddeutu deugain mlwydd oed. Yr oedd ei thad yn fyw y pryd hyny, ac yn dylyn y gwaith o wneyd basiîedi i fyned yma a thraw ar hyd yr ardal i'w gwerthu. Yr oedd ef yn dra methedig yr amser hwnw, ac yn analluog i wneyd nemawrtuag at ei gynaliaeth ef a'i ferch. Yr oedd hithau yn dra llesg a gwan ei hiechyd er ys amryw flynyddau, fel na allasai wneyd dim braidd er cynorthwyo yr hen ŵr ei thad " at gael pethau i'r tŷ," fel y dywedir. Bu y plwyfolion yn dra hynaws a rhydd-galon tuag atynt yn ngwyneb amgylchiadau cyfyng a gwasgedig fel hyn. Ond nid oedd y cyfan a gaent o bob ffynonell yn ddigon iddynt yn eu tlodi a'u mynych wendidau. Byddai arnynt eisieu y naill beth a'r llall yn lled aml, a byddent mor aml yn methu eu cael, megys ag y mae'r tlodion yn gyfFredin; a byddai bill y meddyg i'w dalu yr amser a'r amser, a hwythau druain heb fodd. O gylch calanmai a chalangauaf, byddai Mr. Hughes yn dysgwyl am y rhent, ac os na chai efe ef " erbyn y diwrnod," yr oedd yn siarad yn lled gas, ac yn bygwtti rhoddi notice to quit iddynt. Ond trwy gynilo mewn pethau ereill, ac yn fynych trwy wrthod cymeryd digon o angenrheidiau corfforol, byddai y bunt wrth law yn bryd lon erbyn y tymor i daíu y rhent. Gallasant dalu y rhent bob tymor yn ei amser. Yr oedd hyny yn ysgafnder