Skip to main content

Rhif. 6. Am Meliefln, 1859. Cyf. XII HANESION BYRION AM ENWOGION. Yr oedd Syr Matthew Hale yn un o'r barnwyr cywiraf a gall uocaf a eisteddodd erioed ar y fainc. Bu yn agos iddo pan yn ieuanc gael ei gwbl ddinystrio gan ei gymdeithion afradus. Yr oedd yn hynod o sobr ac ymdrechgar afn wybodaeth ; ond ar ryw ddiwrnod daeth chwareuwyr i'r dref yn yr hon yr arosai, ac aeth i'w gweled yn chwareu, am amryw ddyddiau, fel y caethiwydei feddwl mor llwyr ganddynt nes y collodd bob awydd at efrydiaeth, ac yr ymroddodd i ddylyn cwmni afradlon. Pau oedd yn mhlith ei gymdeithion un diwrnod, bu un ohonynt farw yn ddisymwth. Aeth yntau i'w ystafell a gweddiodd, yn gyntaf dros ei gyfaill, os oedd gwreichionen o fywyd yn aros, am iddo gael ei adfer; ac yna drosto ei hun, fel na byddai iddo byth mwy gael ei weled yn mysg y fath gwmni a'r fath leoedd. O'r dydd hwnw allan, gadawodd ei hen gymdeithion annuwiol, ac ymroddodd yn llwyr i grefydd a llenyddiaeth, Dyma wers i oferwyr. Gofynodd cyfaill unwaith i'r Athraw Franke, pa fodd yr oedd yn gallu cadw ei feddwl yn y fath dawelwch gwastadol? Atebiad y dyn da a haelfrydig oedd hyn: " Trwy gynhyrfa fy meddwl ganwaith yn y dydd. Pa le bynag j byddwyf, a pha beth bynag a wnelwyf, yr wyf yn dywedyd, • Fendigedig Iesu, a oes genyf ran yn dy iachawdwriaethdi? afaddeuwyd fy mhechodau ? a ydwyf yn cael fy arwain gan dy Ysbryd ? Eiddot ti ydwyf, golehfi drachefn a thrachefn. Wrth gymdeithasu fel hyn yn gyson gyda'r Iesu, yr wyf yn mwynhau tawelwch meddwl a heddwch gwastadol yn fy enaid." Dymawers i broffe8wr difraw. "Yr argraffiadau difrifol cyntaf ar fy meddwl ag yr wyf yn eu coiio," raeddai Joseph Williams, o Riddermìnster, " oeddent, pan oeddwn o gylch saith oed, a achlysurwyd