Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehif. 4. Am JEbrillj 1859. Cyf. XII. COFIANT THOMAS EVANS, BWLCHYDDAR. Thomas Evans ydoedd fab i Evan ac Elizabeth Evans, Bwlchyddar, Cylchdaith Llanfyllin. Hanodd yn ol y cnawd o rieni crefyddol, y rhai ydynt hyd heddyw yn aelodau o'r gymdeithas Wesleyaidd. Nid oes genym sicrwydd dan weinidogaeth pwy ei dychwelwyd, ond digon tebyg mai cynghorion ei rieni, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, a fu yn achos o hyny. Ymddengys iddo yfed o ysbryd ei rieni yn ieuanc iawn, ac iddo gael ei ddwyn i afael â chrefydd yn moreu ei oes; a thrwy hyny, yr oedd undeb anwyl iawn rhyngddo a'i rieni, yn fwy felly nag un o'r plant ereill. Nis gall ei fam hyd heddyw oddef clywed son am Thomas heb i'r dagrau ffrydio o'i llygaid. Ei golli o'r teulu a effeithiodd yn drwm arnynt. Yr oedd yn fachgen tawel a dystaw, eto yn llawn tiriondeb a serch. Yr oedd eglwys y Bwlch hefyd yn mynwesu meddyliau gobeithiol iawn amdano. Credentei fod wedi cael ei fwriadu yn neillduolganDduw at waith mawr yn ei eglwys; ac arweinid hwynt yn neillduol i feddwl hyny gan amryw ddatganiadau o'i eiddo ei hun. Er nad oedd ond ieuanc o ran dyddiau, yr oedd yn henafgwr mewn moesau da, a rhinwedd yn ei fywyd crefyddol. Byddai yn dda, 'ie, yn dda iawn, pe efelychid ef yn hyn gan broffeswyr ieuainc, a phlant ein hysgolion Sabbothoh Nid oedd yn cyfeillachu â'i gyf- oedion annuwiol, yn enwedig ar ddydd yr Arglwydd,yr hyn sydd wedi profi yn ddinystr bythol i lawer bachgen gobeithiol. Yn hytrach na hyny, darllen ei Feibl, ac ys- grifenu rhyw fyfyrdodau o'i eiddo erbyn yr ysgol, fyddai ei orchwyl ef; a byddai yr holl ysgolorion yn dysgwyl wrtho o Sabboth i Sabboth. Hefyd yr oedd yn hynodi ei hun mewn duwioldeb, pan ei gelwid arno i weddio yn gyhoeddus yn moddion gras Er nad oedd ond ychydig gyda thairarddeg oed, yr oedd ei ymddangosiad syml, ac