Skip to main content

Y WINLLAN. Rhif. 3. Am Mawrth, 1859. Ctp. XII. HANES ELTAS. PWNC YSGOL. Gof. Pwy oedd rhieni Eliasl Atf.b. Y mae yn anmhosibl dy wedyd; oblegid ni sonia yr ysgrythyrau am ei achau na'i ddygiad i fyny. Yr oedd yn un o breswylwyr Gilead, o du dwyrain i'r Iorddonen, ond nis gwyddom o ba un o'r llwythau a breswyliant yno, os oedd o'r un ohonynt. (1 Bren. xvii. 1.) G. Beth yw ystyr yr enw Elias ? A. Yr Arglwydd fy Nuw yw efe : a gallai hyn arwyddo y byddai yr Arglwydd, y gwir Dduw, gydag ef, i wrth- sefyll eilunaddoliaeth Ahab, a holl Israel. G. Paham y gelwir ef yn Thesbiad "i A. Yn llyfr Tobit, (i. 2.) sonir am Thesbe yn Uwyth Naphtali, a thybia rhai y gelwid ef yn Thesbiad, am ei fod yn ddechreuol o'r lle hwnw, ond iddo fyned a phre- swyîio yn Gilead cyn dyfod allan fel porffwyd. Neu gallai ei fod yn cael ei alw yn Thesbiad am ei fod yn ddiwygiwr yn lsrael; oblegid y mae y gair Thesbiad yn arwyddo trowr neu ddychwelwr. G. Ai proffwyd oedd Elias 1 A. Ie, ac yr oedd yn un o'r rhai enwocaf yn yr Hen Destament, a chafodd ei godi yn nyddiau y gwaethaf o freninoedd Israel, sef Ahab eilunaddolgar. (1 Bren. xvii. 1.) G. A wnewch chwi enwi rbai o brif rinweddau ei gymeriad ? A. Gwnaf. Yn 1. Yr oedd yn ddyn gostyngedig, a hynod o ddirodres. (2 Bren. i. 7, 8). 2. Yr oedd yn ddyn ufudd iawn i ewyllys yr Arglwydd. (1 Bren. xvii. 8—10.) 3. Dyoddefodd lawer oddiwrth ei elynion dros achos ei Dduw. (1 Bren. xix. 2—4.) 4. Yr oedd yn ddynhollolddidderbyn-wyneb. (1 Bren. xviii. 17,18.) 5. Yr oedd yn un enwog mewn gweddi. (1 Bren. xvii.