Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN Rhif. 2. Âm Ch'wefroi', 1859. Cyí. XII. AUGUSTUS YN TRETHU YR HOLL FYD. Augustus Cesar oedd hwn. Mab ydoedd i Caius Octavius, ac Atia, merch Julia, yr hon oedd yn chwaer i Julius Cesar. Anfonodd orchymyn amryw weithiau i drethu ei ddeiliaid. Yr oedd y gorchymyn presenol wedi cael ei roddi dair blynedd cyn gwybod amdano yn Pales- tina; ac felly bu y trethydd gymaint o amseryn cyflawni ei waith mewn parthau ereill o'r amherodraeth. Nid oedd Judea wedi ei llwyr ddarostwng dan awdurdod Rhufain ; ond yr oedd Herod frenin yn cydnabod uchafiaeth Cesar. Ar ol marwolaeth Herod, esgynodd ei fab Archelaus yr orsedd ; ond o herwydd ei greulondeb o'i orthrwm, diswyddwyd ef, a gwnaed Judea yn dalaeth o'r amherodraeth Rhufeinig. Dygwyddodd hyn yn y ddeuddegfed flwyddyn o oed Crist, yn nghylch yr amser yr oedd efe yn dysgu y Doctoriaid yn y deml. Y cyntaf a apwyntiwyd yn Rhaglaw Judea oedd Cyrenius. Apwyntiwyd ef i'r Rhaglawiaeth ar uniad y taleithau, Judea a Syria. Nid oedd yn Rhaglaw ar y naill na'r Ualí yn amser genedigaeth Crist. Ac eto, yn Lucii. 1, 2, yr ydym yn darllen i Augustus Cesar anfon gorchymyn allan i drethu holl ddeiliaid ei amherodraeth, yr hyn oedd yn fíaenorol i enedigaeth y Ceidwad; ac mai pan oedd Cyrenius yn Rhaglaw ar Syria y gwnaed y trethiad yma gyntaf, yn mhen tua deuddeg mlynedd wedi genedigaeth Crist. Bu hyn yn achlysur i gondemnio yr Efengylydd gan amrai, y rhai a haerent ei fod yn ysgrifenydd diofal ac annghywir. Amddiffynwyd efe gan ereill; a gellir meddwl nad yw y cyhuddiadau a ddygwyd yn ei erbyn gan wadwyr ysbrydoliaeth yn dêg a chywir. Rhai o'i amddiffynwyr a fynant fabwysiadu y gair " cofrestru" yn lle " trethu," yn yr adn. 1, a chadw " y trethiad yma'' i mewn yn yr adn. 2. Rhyw fodd, nid yw y darlleniad