Skip to main content

Y WINLLAN Bhif. 1. Aiia lonawr, 1850. Cyp. XII. CREFYDD NACA OL. Yn y dyddiau esmwyth, tawel byn, pan y mae erlid am grefydd yn beth dyeithr, dyoddef mewn un modd o'i phlegid yn beth pur annghyffredin, y mae gwneyd protfes o grefydd yn beth pur hawdd, ac y mae cynal ym- ddangosiad gweddus hefyd ar y cyfan yn orchwyl pur es- mwyth. Arweinia hyn yn naturiol i ff'urfiad dosbarth neillduol o brofì'eswyr, a hwnw hefyd ysywaeth yn un purluosog.y rhai wedi derbyn addysg grefyddol, achael eu dwyn i fyny mewn cydymffurfiad allanol â gorchymynion yr efengyl, a ymgadwant oddiwrth wagedd a llygredigaeth y byd, ond a ymfoddlonant o hyd trwy'r cwbl ar Gkef- ydd nacaol, a dim ond hyny. Mae'n wir nad yw y bobl hyn yn halogi y Sabboth, nac yn esgeuluso ordinhadau y cysegr, nac yn byw heb ymddangosiad o weddio, nac yn eymeryd enw Duw yn ofer; nid ydynt feddwon ; nid ydynt yn tyngu nac yn rhegu; nid esgeulusant y tlawd a'r rheidus ; nid ym- roddant i loddest a gwageddau bywyd ; nid ydynt yn magu @u plant heb ryw faint o barch i grefydd ; ac nid ydynt yn bwrw ymaith ofn Duw yn hollol. Y pethau hyn nis gwnant. Ond y rnae'n wir hefyd nad ydynt yn caru'^Duw; nid oes ganddynt brofiad o gariad Duw wedi ei dywallt yn eu calonau; nis gwyddant ddim am grefydd sylweddol, fywiol, a phrofiadol; nid ydynt wedi rhoddi eu calonau i Dduw ; nid ydynt yn ymhyfrydu ynddo; nid ydynt yn gosod ei air yn uwch yn eu bryd naju bara beunyddiol; nid ydynt jn caru ei dŷ, er eu bod yn ei fynychu; nid ydynt yn mwynhau tangnefedd Duw yr hwn sydd uwch- law pob deall; nid ydynt yn demlau i'r Ysbryd Glân ; nid ydynt wedi myned trwyodd o farwolaeth i fywyd ; nid ydynt wedi eu creu o'r newydd yn Nghrist Iesu ; nid