Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 7. Gorpíienliaf, 1858. Cyf. XI DEDfYDDWCH. Rhyw air yn swnio yn hyfryd yn nghlustiau pob un ohonom ydyw y gair dedwyddwch. Y mae dyn yn dyhêu ara ddedwyddwch, fel y sychedigam yrafonydd. Y mae dedwyddwch yn nôd ag y mae pob dyn yn ceisio ymgy- raedd ato, yn mhob oes a chyda phob cenedl; ond er maintydyw y llafur a'r ymdrech sydd yn cael ei wneyd gan ddynion i gyraedd ato, ychydig iawn sydd yn ei feddu i'r graddau uwchaf ag y mae i'w gael yn y byd hwn. Mae rhai yn dweyd uad oes dim dedwyddwch i'w gael yn y byd hwn ; ond y mae y rhai hyny yn camgy- meryd cymaint a'r rhai sydd yn dweyd ei fod i'w gael yma yn gwbl. Y mae y Creawdwr mawr yn hoífi i bob dyn fod yn ddedwydd, a bod ar ei oreu er sicrhau hyny. Ond beth yw yr achos na bae dynion yn d'od i feddiant o ddedwyddwch, os ydyw i'w gael yn y bydhwn? Yr achos ydyw, am nad ydynt yn ei geisio yn yr iawn le, nac yn yr iawn wrthddrychau. Ni a gawn hanes am ddyn er yn foreu iawn yn myned ar gyl'eiliom i chwilio am ddedwyddwch. Darfu ein rhieni cyntaf gymeryd o bren y bywyd a bwyta, gan dybio y byddent yn dded- wydd, ac megys duwiau. Felíy y mae hi gyda dyn yn awr; y mae yn myned at wrthddrychau nad oes dedwydd- wch i'w gael ynddynt. Edrychwch ar y masnachwr yna: y mae yn meddwl cael dedwyddwch trwy lwyddo yn ei fasnach. Edrychwch ar y cybydd : mae yntau yn meddwl cael dedwyddwch trwy enill cyfoeth. Edrych- wch ar y meddwyn : y maeyn meddwl cael dedwyddwch trwy ddylyn y gyfeddach. Edrychwch wedi hyny ar y milwr; mae yntau yn meddwl cael dedwyddwch trwy ddarostwng ei elynion, a buddugoliaethu arnynt. Ed- rychwch fel hyn ar y neb a fynoch o blant dynion, y mae ganddynt eu gwrthddrychau. Fe welwch y plentynbach yna rai prydiau yn gweled ei gysgod o'i flaen ar yr heol,