Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 6. Mchefln, 1858. Cyf. XI CYFNEWIDIADAU BYWYD. Af.th Alfred Johnson i Mancbester§ yn ngwanwyn y flwyddyn 1838, ugain mlynedd yn ol, er gweled mwy o'r byd, a pherffeithio ei hun yn ei alwedigaeth fel dilledydd ídraper). Cafodd le yn fuan yn un o hrif fasnachdai y dref. Yr oedd ef yn ddyn ieuangc bywiog, tirion, synwyrol, ac yn meddu address dda. Yr oedd wedi ei dori allan yn un o'r rhaimwyafcymhwysi'walwedigaeth; a thrwy hyny dringodd yn fuan i gymeradwyaeth y meistr, codẃyd ef cyn hir i le uwch, ac yn uwch wedi hyny, fel, yn mhen blwyddyn a haner, yr oedd wedi ei osod yn brif olygwr dros yr holl ddynionljieuaingc a berthynai i'r sefydliad, y rhai oeddent o ddeg i bymtheg ar ugain o rîfedi. Yr oedd Alfred hefyd yn ddyn ieuangc o ymarfer- ion rheolaidd, sobr, a chynil; ac yn dangos cryn lawer o duedd i fynychu moddion gras. Perthynai hefydi'run sefydliad arr.ryw ferched ieuaingc yn trafod millinery, yn cael eu llywyddu gan foneddiges ieuangc, o'r enw Misa Agnes Simson, idd yr hon y telid parch raawr gan bawb yn y sefydliad. Yr oedd hi wedi ei bendithio gan rag. luniaeth âphrydferthwch gwedd, a hawddgarwch tymher, tuhwnt i'r cyfTredin; ac yr oedd ei galwedigaeth o gan- lyniad yn rhoddi mantais iddi i wisgo yn ddestlus. Yr oedd amryw ddynion ieuaingc y sefydliad yn barod i fwyta penau eu bysedd gan faint eu hawydd i ddringo i'w fî'afr, ond yr oedd duli honeddigaidd, gwylaidd, a llednais Miss Simson, yn cadw cyfwng priodol rhyngddi a phawb ohonynt; ni fynaijer dim i neb ei gweled yn nghwmni un ohonynt, ond yn nghylchei galwedigaeth. Wedi bod yn y sefydliad hwn am oddeutu blwyddyn, daeth Alfred i deimlo mwy o ryw hyfrydwch i fyned ar neges i'r show- room nag un man arall, a byddai weithiau yn gwneuthur esgus o ueges er mwyn taflu yno, ac yr oedd yn hawdd gweled nad oedd gan Miss Simson ei hun ddim rhyw