Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 2. Cbwefror, 1S5S. Cyf. xi. YSGRIFENU A CHYFANSODDI. Dyma swp o ysgrifau yn awr ger ein bron. Maent oll wedi eu bwriadu i'r " Winllan." Cynwysa pob un ohonynt hefyd rai amlygiadau ofeddwl, a llawer amlygiad o ymdreeh a llafur. Ond, wedi y cwbl, ychydig ohonynt sydd yn gymhwys i'n dalenau ni; canys, er cyrnaint an- rhydedd i'w hawdwyr yw eu bod cystal ag y maent, eto i gyd mae eu gwallau a'u difFygion y fath, fel nas gallwn eu gollwng i'r byd trwy y wasg. Mae rhai o'r ysgrifau hyn yn ffrwythau ymdrechion cyfeillion i ni; ac er eu cefnogi hwy, earem gyhoeddi eu gwaith ; ond nis gallwn. 'J'ra y inae y clorian yu un llaw, a'r cleddyf yn y llaw arall, gan Astrasa, y mae ei llygaid hi dan fwgwd. Nid yw cyfiaionder yn adnahod neb " yn ol y cuawd." Rhaid i ni, gan hyny, er mor hwyrfrydig ÿm, ollwng yr ysgrit'au hyn oll i dywyllwch ebargofiant! Pity hefyd ; ond beth sydd i'w wneyd ? Cyd-ddyged ein cyfeillion siomedig â ni: ninau a wnawn ein goreu i ddangos ein serch atynt hwy. Ceisiwn egluro iddynty ftbrdd—tfordd sicr hefyd— i dtlyfod yn ysgrifenwyr da, ac yn gyfansoddwyr gwych. Tueddir ni, wrth edrych dros yr ysgrifau dau sylw, i wneyd y crybwyllion a ganlyn : — 1. Yspnfenwch law eglur a dealladwy —Lluniwch eich holl lythyrenau yn ofalus. Os nad allwch, gyda llaw galed ac anystwyth Uafur, ysgrifenu llaw brydferth, dêg. gallwch yn sicr ysgrifenu un bluen. Mae'n anmhosibl i'r cysodydd beidio â gwneyd cam à rbai ysgrifau, oblegid y maent wedi eu hysgrifenu mor ddiotal a dilun, nes y mae'n ormod job i hyd yn nod ddewin wneyd synwyr ohonynt. Dyma rai o'r ysgrifau hyn, sydd yn awr o'n blaen. Yn bendant, y maent yn drech na ni—nis gallwn eu gwneyd allan ; ac eto nid oes brinder ynddynt o flou- rishes, ac o ymgais at addurniant! Gyfeillion ieuaiugc!