Skip to main content

Rhif. i. Ionawr, 1858. Cyf. XI. ANERCHIAD Y GOLYGYDD. Gyda blwyddyn newydd daw arnom ofal newydd. Rhaid i ni ofalu am y " Winllan." Dyna benderfyniad ein brodyr. Ninau yn llawen a blygwn iddo. Plygwn iddo yn llawen, nid am y chwenychem y gofal, nac am y tybiwn ein hunain yn neillduoi gjfaddasol i'w gymeryd, ond am y carem wneyd a allem, yn mhob modd, er dysgu, codi, a líesau ein pobl ieuaingc, a'n cydgenedl yn gyífred- inol. Ychydig, efallai, a allwn ei wneuthur at hyny, ond llawenhawn mewn cael eyfleusdra i wneyd ein goreu. Mae y " Winllan " wedi bod hyd jraa yn dderbyniol iawn gan ein pobl ieuaingc ni ; ac nid felly yn unig, ond y mae llawer o'n pobl hynach hefyd wedi arfer profi ei grawn, a'u galw yn flasus. Ein dymuniad ni yw ei chadw rbag dirywio. Esgusodir ni efailai am ddywedyd hefyd, fod yn ein bryd beri iddi wellau. Dichon fod yn haws i ni fwriadu ei gwella na cbyflawni hyny. Ond ceisiwn. Anrhydeddusach yw methu wedi ceisio.nabod heb geisio o gwbl. Mae genym saìl dda i ddysgwyl llwyddo, er hyny. Mae amrai o'n gweinidogion mwyaf doniol a thalentog, ac nid ychydig o'n gwýr lleyg gallu- og, wedi addaw ein cynorthwyo. Mynwn, o dro i dro, erthyglau o nodweddiad llai cyffredin i'n darllenwyr. Caiffnaill ai Berniadaeth, neu Wyddoreg, neu Athron- iaeth Meddwl a Moesau, rbyw gymaint o sylw bob mis genym. Ac edrychwn yn eiddigus iawn i gymeriad pob peth a gyhoeddir genym. Ar yr un pryd, gofalwn am yr Ysbrydol a'r Ymarferol. Tra yn darparu tudalen i'r meddwl chwilgar a chywrain, cadwn ein llygad hefyd ar angen a phrofiad y credadyn gwan. Mae genytn ryw idea çin hunain o barthed i'r hyn y carem i'r Winllan fod. Ymdrechwn ei weithio allan. Nid ydym wrth hyn yn beio y Winllan mewn blynyddau blaenorol. Yn hy- trach, ein teimlad yw y cyfrifwn ein hunain yn hapus