Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WINLLAN. Rhif. 8. Iwit, 1S»Ö. Cíf. IX. DIWYLLIAETH Y MEDDWL. PENN0D I. Gogoniant dyn yw ei feddwl. Efallai nad oes dim a ddengys yn amlycach ddoethineb a mawredd y Creawd- wr, na chyfansoddiad meddwl dyn: ei ran ysbrydol ac anfarwol yw. Ei feddwl sydd yn ei debygu i'w Luniwr; yn ei godi yn uwch yn nghadwyn bodaeth na'r creadur direswm, ac yn ei wneyd yn arglwydd y greadigaeth. Gwnaethpwydy byd erddo; y mae wedi ei brydferthu gan ddwyfol law i fod yn breswylfa addas iddo; a'r cy- foeth sydd ar ei wyneb, yn nghyda'r hyn sydd guddiedig yn ei fynyddoedd, a wnaethpwyd i fod yn gysur iddo. Trwy yr hyn a elwir yn rheswm, y mae yn alluog i blygu anian i fod yn wasanaethgar iddo ei hun ; y mae y dŵr, y tân, a'r awyr, o dan ei lywyddiaeth! Yn hyn y gwel- wn ragoriaeth meddwl ar ddefyn. Gall meddwl, i eith- afoedd tu draw i ddirnadaeth, beri i bob peth yn myd natur fod iddo yn ffynon mwyniant. Meddwl diwyll- iedig sydd wedi dwyn oddiamgylch wareiddiad trigolion anwaraidd gwahanol wledydd ; wedi codi un genedl gor- uwch arall, ac amherodraethau i gyfoeth a mawredd. Pa beth nad all meddwl diwylliedig ei ddwyn oddiam- gylch! I alluoedd meddwl Davy, Watt, ac Arhwrìght, yr ydyrn yr awrhon yn ddyledus am lawer o bethau a wnant fywyd yn gysurus. Yn ein dyddiau ein hunain hefyd y mae gorche6tion y meddwl yn dra amlwg mewn llawer o bethau, ond nid yn fwy mewn dim nag yn y gweüiant a welir yn sefyllfa dyn fel creadur cymdeithasol. Pa ragoriaeth bynag sydd mewn meddwl ar ddefnydd, y mae ei rym, ei fywiogrwydd, a'i goethrwydd, i'w briodoli i ddysgyblaeth a diwylliaeth briodol. Heb hyn, dichon y buasai y dynion hyny a fuont yn syndod i'r byd, wedi eu symud fel ereill, heb adael dim ar eu holau, i gadw mewti coffadwriaeth eu henwau yn anrhydeddus. Y mae medd-