Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥ WIHLLAN. Rhif. 6. Meliefin, I83Ö. Cyf. IX. ANFARWOLDEB YR ENAID. "Fod dyn yn ddeiliad byd dyfodol, ac yn etifedd an- farwoldeb," sydd yn un o'r arwireddau mwyaf ysplenydd a difrifbl ag sydd wedi cael eu gosod o fewn cyraedd ym- chwil dyn. Os nad yw dyn i olfodoli y bedd; os tra- gwyddol gwsg yw cwsg angeu; os yw marw dyn fel marw anifail, y mae cristionogaeth yn hydwyll, ein ffydd yn ofer, ac o bob bôd, dyn yw y truenusaf. Fod dyn yn fôd anfarwol, nid yw ynddi ei hun yn dybiaeth afresymol ac anmhosibl; nid yw yn wrthdarawiad i un o ddeddfau natur, nao yn ddadymchweliad i egwyddorion rheswm. Y Bôd a roddodd i ddyn ei fodolaeth, a fedr, â'r un gallu, ei pharhau cyhyd a thragwyddoldeb. Fod dyn yn ddeil- iad byd dyfodol, sydd arwiredd a brofir oddi ar egwydd- orion rhesymoldeb ; i adael heibio bob rhesymeg arddan- soddawl (metaphysical arguments), y rhai a dybir y cyfodant oddi ar natur annefnyddiol yr enaid (immate- riality oftlie soulj, gan y meddyliwyf nad yw bod enaid yn ei natur yn aunefnyddiol, yn un prawf ei fod yn an- farwol; pe amgen, gellir dywedyd fod pob creadur byw- ydol i fyw byth, oblegid lle bynag y mae bywyd, y mae yno rywbeth heblaw defnydd (matter), a'r rhywbeth hyny a raid fod yn annefnyddiol. Bod dyn yn ddeiliad byd arall, sydd dybiaeth ag sydd resymol i fôd meddylgar ei mabwysiadau, oddi ar yr ystyr- iaeth o annedwyddolrwydd, gorwagedd, a byrdra y bywyd presenol. Gwna dyn ei ymddangosiad ar chwareufwrdd amser, yn gynt na chysgod y diflana, yn mhen munudyn y cwympa i'w fedd, ei enw nid yw mwy, a'i arosiad munudawl a orchuddir â gofidiau, a dagrau, a chystudd mawr. Gofynir, Ai rhesymol tybied fod dyn, bôd ag sydd wedi ei gynysgaethu â galluoedd meddyliol, ac eang amgyffrediadau, ac athrylith braidd yn annherfynedig ;